Tafarn y Bedol, Llangatwg

PWMP logoTafarn y Bedol, Llangatwg

llangattock_horseshoe_inn

Tybir bod yr adeilad rhestredig hwn yn dyddio o ddechrau’r 19g ganrif. Roedd yn cael ei ddefnyddio fel tafarn erbyn y 1830au. Yn wreiddiol, coetsiws oedd yr adran gyfagos, islaw’r rhiw, lle byddai cerbydau a dynnid gan geffylau’n cael eu cadw.

Yn yr hen gerdyn post ar y dde, drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch, gallwch weld rhan o’r fynedfa i goetshis ar y dde eithaf.

Ymunodd William Rumsey, landlord Tafarn y Bedol, â’r lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael ei wraig i reoli’r busnes ar ei phen ei hun. Ym 1916, fe’i ducpwyd gerbron y llys am roi cwrw i blentyn o dan 14 oed. Roedd swyddog heddlu wedi dal bachgen yn cerdded o’r dafarn gyda pheint o gwrw mewn jwg ynghudd o dan ei got.

Roedd y bachgen wedi’i anfon gyda’r jwg gan Alice Wallace, gwniadwraig leol yr oedd ei gŵr hefyd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Dadleuodd y cyfreithiwr dros yr amddiffyniad mai llym braidd oedd dwyn y merched gerbron y llys pan oedd eu gwŷr i ffwrdd ar wasanaeth milwrol. Gwrthodwyd yr achos gan yr ynadon ond bu’n rhaid i Mrs Rumsey dalu ei chostau cyfreithiol.

Cynhaliwyd “cyngerdd ysmygu” yn Nhafarn y Bedol ym mis Mai 1917 i ddifyrru’r Preifat William Lewis a oedd ar ei seibiant ar ôl bod yn yr ysbyty. Arferai chwarae cefnwr i glwb rygbi Crughywel cyn ymuno â Chyffinwyr De Cymru.

Ym mis Tachwedd 1917 penodwyd Miss Prynea May Rumsey o Dafarn y Bedol i helpu i reoli cronfa a fyddai’n talu am anrhegion Nadolig i ddynion lleol oedd i ffwrdd yn gwasanaethu yn y rhyfel.

Gyda diolch i Ganolfan Archif Ardal Crughywel

Cod post: NP8 1PA    Map

 

I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch i fyny Hillside Road at Gapel Bethesda
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button