Capel Bethesda, Llangatwg
Codwyd yr adeilad hwn ym 1835 i gymryd lle capel blaenorol o 1768. Ailgylchwyd cerrig o’r hen gapel ar gyfer yr un newydd. Mae mynwent o hyd ar safle’r hen gapel i’r de o’r pentref.
Rhoddwyd tir ar gyfer Capel yr Annibynwyr Bethesda ar ei newydd wedd gan Syr Joseph Bailey. Roedd wedi etifeddu ffortiwn drwy weithfeydd haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful a phrynodd Barc Glanwysg ynghyd ag eiddo eraill. Sylwer ar y drws ochr yn y wal sy’n wynebu Crughywel. Pwrpas y drws yma oedd cludo eirch i’r capel ar gyfer gwasanaethau angladd.
Gosodwyd rhestr y gwroniaid o’r Rhyfel Byd Cyntaf, sydd i’w gweld o hyd, yn y festri ym mis Mawrth 1919. Mae’n cynnwys 19 o ddynion o’r gynulleidfa a wasanaethodd yn y rhyfel. Collodd dau ohonynt eu bywydau, gan gynnwys William Thomas, preifat gyda Chatrawd Swydd Gaer. Bu farw mewn ysbyty yn Ffrainc ym mis Ionawr 1917, yn 24 oed.
Derbyniodd aelod o’r capel, Joseph Williams, cludwr elorwelyau gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, y Fedal Filwrol ym 1917 am ei ddewrder yng nghanol y saethu. Bu farw mewn ysbyty milwrol yn yr Eidal 22 Tachwedd 1918, gan adael ei wraig Rebecca a oedd yn byw yn Crown Cottage.
Bu rhai o aelodau’r capel a oroesodd y rhyfel yn byw ag anableddau am weddill eu bywydau. Collodd Tom Bevan o fferm Penrhiw lygad a chael ei anafu yn ei goes a’i fraich dde ar Ffrynt y Gorllewin yng Ngwlad Belg. Ar ôl cael ei glwyfo yn Ffrainc, torrwyd ymaith goes chwith Willie Powell, 19 oed, Canal House, wrth y pen-glin ym 1917.
I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, dilynwch y ffordd y tu ôl i fynwent y capel. Ychydig cyn y bont dros y gamlas, cymerwch y llwybr ar y chwith i gyrraedd y llwybr tynnu.
Cod post: NP8 1LJ Map
I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, dilynwch y ffordd y tu ôl i fynwent y capel. Ychydig cyn y bont dros y gamlas, cymerwch y llwybr ar y chwith i gyrraedd y llwybr tynnu |