Cei ac odynau calch Llangatwg

PWMP logo button-theme-canal

Cei ac odynau calch Llangatwg

llangattock_canal_trip_1908

Adeiladwyd yr odynau calch ar hyd y cei mewn sawl cam ac maent wedi’u rhestru’n Radd II*. Codwyd y rhai hynaf ym 1815 gan Gwmni Cychod Aberhonddu. Mae saith siambr i gyd sy’n golygu mai dyma’r gyfres fwyaf o odynau calch ar lan y gamlas. Fe’i hadferwyd ym 1995 a 2018. Does fawr ddim ar ôl o odyn galch arall a adeiladwyd gan J & C Bailey ym 1844 ger Pont 114 (i lawr y gamlas).

Cyrhaeddai’r calchfaen yr odynau mewn wagenni a ddeuai i lawr ar inclêns a thramffordd o chwareli ar lethrau’r bryn uwchben. Estynnodd y Baileyiaid y dramffordd hyd at Nant-y-glo ym 1844. Dadlwythwyd glo yn Llangatwg i’w ddosbarthu’n lleol. Byddai coed ar gyfer pyst pwll yn cael ei gludo ar y dramffordd fel llwyth wrth ddychwelyd.

Adeiladwyd bwthyn i reolwr y cei ym 1820 wrth ochr y dramffordd lle’r oedd yn croesi Ffordd Beaufort.

Adeiladwyd y tŷ y gallwch ei weld i’r dde o’r odynau calch (wrth edrych o lwybr tynnu’r gamlas) tua 1840 i water tender Cwmni Camlas Brycheiniog a’r Fenni (swyddog a reolai ddyfroedd y gamlas). Fe’i hadwaenir ers amser maith fel Canal House a bu unwaith yn gartref i James Powell a’i wraig.

Fe’i ganed ym 1865 ac o 1892, gweithiai fel fforddoliwr i gwmni’r gamlas. Ym 1911 dywedwyd ei fod yn gyfrifol am Dramffordd Llangatwg ers 19 mlynedd.  Daw’r ffotograff o 1908 o drip cwch yn mynd heibio i Dŷ Cychod Powell o Gasgliad Herbert Dunkley yn Archif yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Bu nai’r teulu Powell, Willie Powell, yn byw gyda nhw yn Canal House cyn iddo ymuno â Chyffinwyr De Cymru. Ym 1917, cafodd ei glwyfo’n wael 10 niwrnod ar ôl iddo gael ei anfon i’r ffosydd ar Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc yn 19 oed. Bu’n rhaid i’r llawfeddygon dorri ymaith ei goes chwith wrth y pen-glin. Drwy gyd-ddigwyddiad, un o’r nyrsys yn yr ysbyty oedd Charlotte Somerset, merch rheithor Crughywel. Gollyngwyd Willie yn wael o’r fyddin ym mis Mehefin 1918.

Gofelir am y darn llywiadwy o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu gan yr elusen Glandwr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru.

Gyda diolch i Glandŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Camlas Sir Fynwy, Aberhondda a'r Fenni

Cod post: NP8 1LZ    Map

 

I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, dilynwch y llwybr tynnu tua’r gogledd hyd at y bont nesaf, troi i’r dde a dilyn y lôn i lawr at yr Hen Reithordy
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

BannerCanalRiverTrust

Canal & River Trust website – Monmouthshire & Brecon Canal
Limekiln Trail along the canal - CRT website

Glamorganshire canal tour button link Navigation up stream buttonNavigation downstream button