Yr Hen Reithordy, Llangatwg
Mae’r rhannau hynaf o’r adeilad hwn yn dyddio o’r 16eg ganrif. Yn westy gwledig erbyn hyn, ar un adeg dyma gartref rheithoriaid Llangatwg a fyddai’n arwain gwasanaethau yn Eglwys Catwg Sant gerllaw.
Yn yr 17eg ganrif, roedd y bardd Henry Vaughan (1621-1695) yn byw yma fel disgybl ifanc i’r rheithor Matthew Herbert. Roedd Henry, a aned ym 1621, yn perthyn i’r teulu oedd biau Llys Tretŵr. Mae’n bosibl ei fod wedi ymladd dros y Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref. Fe’i cydnabyddir yn eang fel bardd Cymreig gorau ei oes. Mae ei gariad tuag at dirweddau a bywyd gwyllt Dyffryn Wysg yn lliwio llawer o’i waith.
Tynnwyd Matthew Herbert o fywoliaeth Llangatwg gan yr awdurdodau Piwritanaidd wrth i’r rhyfel ddod i ben.
Penodwyd rheithoriaid Llangatwg gan bennaeth y teulu Somerset, Dug Beaufort yn ddiweddarach, o 1555 nes i’r Eglwys yng Nghymru gael ei datgysylltu ym 1920. Y rheithor rhwng 1812 a 1851 oedd yr Arglwydd William Somerset, un o feibion y Dug.
Daeth y Parch Richard Cole-Hamilton (llun ar y dde) yn rheithor Llangatwg a Llangenau ym 1913. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn gaplan yn y fyddin. Daeth locwm i gymryd ei le pan gafodd ei anfon i ffwrdd dros 12 mis i’r Aifft a’r Dardanelles, lle cafwyd colledion trwm gan luoedd y Cynghreiriaid yn eu hymgais seithug i oresgyn Twrci drwy benrhyn Galipoli.
Wedi goroesi’r peryglon heb anaf, roedd ynghlwm â damwain gar ddifrifol ym mis Chwefror 1916 - tra oedd gartref ar ei seibiant! Gadawodd am yr Aifft yn fuan wedyn. Yn nes ymlaen yn y rhyfel, darlithiai ar ei brofiadau i godi arian i filwyr Cymru. Cydsefydlodd Gymdeithas Cyn-filwyr Llangatwg ar ôl y rhyfel.
Ym 1918 bu brawd Richard, Charles, yn aros yma ar ôl tair blynedd fel caplan ym Mhalesteina a Ffrainc lle effeithiwyd arno gan nwy gwenwynig. Derbyniodd Charles y Groes Filwrol ym 1919. Bu eu cefnder C.G. Cole-Hamilton, prif gwnstabl Sir Frycheiniog, hefyd yn derbyn anrhydeddau am ei wasanaeth yn y rhyfel. Collodd Richard a’i wraig Margaret fab a merch yn yr Ail Ryfel Byd.
Codwyd rheithordy llai o faint yn lle'r hen un ym 1950.
Cod post: NP8 1PH Map
I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, dilynwch y lôn tua’r dwyrain wrth iddo wyro i Owens Row. Mae’r codau QR nesaf yn ffenest Crown Cottage ar y dde |
![]() |
![]() ![]() |