Hen Dafarn y Goron, Llangatwg

PWMP logobutton-theme-crimeHen Dafarn y Goron, Llangatwg

llangattock_crown_inn

Ar un adeg, Tafarn y Goron oedd y bwthyn hwn. Nid un o’r tafarnwyr mwyaf ufudd i’r gyfraith oedd Rees Rees a ddaliai’r drwydded yn y 1860au! Ym 1864, fe’i dirwywyd am fod yn ‘feddw ac yn anystywallt’. Wythnos yn ddiweddarach fe’i dirwywyd am gadw’r dafarn yn agored ar ôl amser cau.

Y mis canlynol, dyma’r Cwnstabl John Lewis yn galw heibio unwaith eto yn hwyr y nos. Cyhuddodd Rees y cwnstabl o geisio difetha ei deulu ac yna taro’r swyddog yn ei wyneb. Yn y sgarmes a ddilynodd, llwyddodd y Cwnstabl i gael Rees i’r llawr. Yna, gofynnodd Rees am help gan un o’i gwsmeriaid a ymunodd yn y gwffas. Pan redodd y Cwnstabl Lewis i’w lety, daeth y rhai a fu’n ymosod arno ar ei ôl gan wneud difrod i’r drws ffrynt.

Gorchmynnwyd Rees gan yr ynadon i dalu dirwy o £10 – rhagor na £1,200 erbyn heddiw – neu fynd i’r carchar am ddeufis gyda llafur caled.

O tua 1871 tan 1916, cedwid Tafarn y Goron gan Mrs Pugh na wnaeth achosi unrhyw helynt i’r heddlu. Trosglwyddwyd y drwydded i Rees Owen, saer maen lleol ym 1916. Ei enw ef sydd ar yr arwydd yn y llun ar y dde, drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch. Mae ei ŵyr, Rees Owen arall, yn sefyll yn y drws.

Ar yr adeg honno, bu’r bwthyn cyfagos, Crown Cottage (a fu unwaith yn rhan o’r dafarn) yn gartref i Rebecca Williams yr oedd ei gŵr Joseph i ffwrdd yn gwasanaethu yn y rhyfel fel cludwr elorwelyau gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ym mis Mawrth 1917, derbyniodd y Fedal Filwrol am ei ddewrder wrth gludo milwr clwyfedig i ddiogelwch er gwaetha’r holl sieliau’n syrthio o’i gwmpas.

Toc ar ôl hynny, dywedodd yr awdurdodau wrth Mrs Williams fod ei gŵr ar goll ar faes y gad. Ar ôl aros yn llawn pryder am sbel cyn cael newyddion amdano, dywedwyd wrthi ei fod wedi dychwelyd i’w uned. Pan ddaeth adref ar ei seibiant yn yr hydref, cyflwynwyd iddo wats aur ag arno arysgrif gan blwyfolion Llangatwg. Talodd Roger Howells o fferm y Cilau deyrnged ac yntau wedi cyflogi Joseph cyn y rhyfel.

Gwasanaethodd Joseph, a addolai yng Nghapel Bethesda, ar Ffrynt yr Eidal ym 1918. Bu farw yn 28 oed mewn ysbyty yn Genofa 22 Tachwedd, 11 o ddiwrnodau ar ôl i’r rhyfel ddod i ben.

Gyda diolch i Ganolfan Archif Ardal Crughywel

Cod post: NP8 1PH    Map

I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch tua’r gogledd ar hyd Owens Row a throwch i'r dde heibio'r eglwys er mwyn cyrraedd hen Neuadd Goffa Miles
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button