Eglwys Catwg Sant, Llangatwg

PWMP logobutton-theme-crimeEglwys Catwg Sant, Llangatwg

Mae cofnodion am eglwys fan hyn yn mynd yn ôl cyn belled â’r 6ed ganrif, pan oedd Catwg Sant yn lledaenu’r ffydd Gristnogol yng Nghymru ac Iwerddon. Yn y pen draw, fe’i hurddwyd yn esgob ond yn fuan ar ôl hynny fe’i lladdwyd gan waywffyn meirchfilwyr Sacsonaidd wrth iddo weinyddu’r Offeren.

Mae gan yr eglwys bresennol nodweddion o’r Canol Oesoedd a diweddarach na hynny. Cafwyd atgyweiriadau sylweddol yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Sylwer nad yw’r tŵr mawr a atgyweiriwyd yn y 15fed ganrif ar yr un llinell â gweddill yr eglwys. Dyddia pump o’r wyth cloch o 1719.

Yn yr eglwys mae cyffion a physt chwipio’r pentref a ddefnyddid i gosbi ‘cnafon a chrwydriaid a llabystiaid diedifar’.  Byddai drwgweithredwyr yn cael eu dal gerfydd eu fferau yn y cyffion a safai’n wreiddiol wrth waelod wyneb deheuol y tŵr.

Yn y fynwent, ceir cerrig beddau a choflechi a wnaed yn y 18fed ganrif gan y teulu Brute o seiri maen cofadeiliau, gyda’r gwaith paent gwreiddiol i’w weld o hyd. Hefyd coffeir y fydwraig Anne Lewis. Bu farw ym 1773 ar ôl helpu i eni 716 o fabanod!

Yn y tŵr ceir ffenest o’r 16eg ganrif sydd â gwydr niwlog. Dyddia’r ffenestri gwydr lliw o 1858 ymlaen. Mae motiffau Affricanaidd ar un ac fe’i rhoddwyd yn ei lle yn 2007 er cof am Dr Michael Hutt, oedd wedi gweithio yn Affrica.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, caplan yn y fyddin dramor oedd y rheithor Richard Cole Hamilton. Ym 1915, canodd y gynulleidfa yn Eglwys Catwg Sant emyn a gyfansoddwyd gan yr Arglwydd Glanwysg pan oedd yn rheoli milwyr yn Aden. Ceir cofeb yn yr eglwys i’r holl ddynion lleol a fu farw yn y brwydro.

Collodd y Parchedig Cole Hamilton a’i wraig Margaret eu mab David a’u merch Joan yn yr Ail Ryfel Byd. Lefftenant yn y Llynges Frenhinol oedd David a bu farw ar y môr yn 28 oed. Cofnodir Joan ymhlith y sifiliaid a fu farw yn ystod y rhyfel. Coffeir y ddau gan reiliau cymun yr eglwys.

Mae pum bedd rhyfel yn y fynwent - ceir y manylion isod. Hefyd wedi’i gladdu yma y mae’r Llyngesydd John Gell (1740-1806) o Blas Glanwysg. Ymwelodd ei ffrind yr Arglwydd Nelson ag ef yno ym 1802. Mae carreg fedd Thomas Davies yn cofnodi iddo farw'n 105 oed ym 1884 a bod ei dad a’i fam wedi cyrraedd 101 a 94 oed yn y drefn honno!

Cod post: NP8 1PH    Map  

I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cymerwch y llwybr troed o ben dwyreiniol y fynwent. Ewch drwy’r caeau a chroesi’r briffordd i gyrraedd y bont dros yr afon
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

First World War graves in churchyard

  • Boddy, John Thomas, Private 286603. Died 24/10/1918 aged 43. RAF Recruits Wing (Blandford). Husband of AR Boddy, of Ffawyddog, Llangattock.
  • Gough, Walter Francis, Driver 67418. Died 20/11/1917. Royal Engineers, 1st Field Company.

 

Second World War graves in churchyard

  • Clarke, Albert Douglas, Second Lieutenant. Died 30/09/1941 aged 23. Royal Indian Army Service Corps. Son of Major Albert Edward Clarke and Edith Annie Maude Clarke, of Torquay, Devon.
  • Lloyd, Thomas David, Sergeant 2212943. Died 14/05/1947. Royal Air Force Volunteer Reserve. Son of John Thomas Lloyd and Mary Amelia Lloyd, of Crickhowell; husband of Mary Lloyd.
  • Mann, Leslie Richard Henry, Colour Sergeant PLY/X. 289. Died 10/05/1945 aged 35. Royal Marines. Son of James Henry Stephen Mann and Minnie Mann; husband of Jenny Mann, of Ffawyddog, Crickhowell.