Garej a sefydlwyd gan gyn-garcharor rhyfel, Nefyn
Garej a sefydlwyd gan gyn-garcharor rhyfel, Nefyn
Sefydlwyd Garej West End yn Nefyn ar ôl yr Ail Ryfel Byd gan Siegfried Nierada, dyn a oedd wedi dod i'r ardal fel carcharor rhyfel Almaenig.
Roedd gwersyll carcharorion rhyfel Nefyn yng Nglan y Pwll, ar draws y ffordd o safle’r garej. Symudwyd tua 40 o garcharorion Almaenig oddi yno i Ynys Môn ym mis Mawrth 1948. Yn ddiweddarach dychwelodd nifer o gyn garcharorion rhyfel i Ben Llŷn, lle buont yn gweithio ar ffermydd ac yn dod yn ffrindiau â phobl leol.
Priododd Siegfried â dynes o Nefyn, Megan. Roedd gan y cwpl ddau fab, Erhard a Mark. Yn 2021 dywedodd Erhard nad oedd yn cofio ei dad erioed yn siarad am ei fywyd yn yr Almaen, na chwaith am ei rôl yn y lluoedd arfog. Dysgodd Siegfried Saesneg ar ôl dod yn garcharor rhyfel. Gallai ddilyn sgyrsiau Cymraeg ond nid oedd yn rhugl yn y Gymraeg.
Weithiau gofynnwyd iddo gyfieithu o’r Almaeneg. Yn 1976 gofynnodd yr awdurdodau iddo gyfieithu'r label ar ddrwm cemegol gafodd ei ddarganfod gan Wylwyr y Glannau ym Mhorthdinllaen. Roedd y drwm yn cynnwys hylif gwarchod metel a wnaed yng Ngorllewin yr Almaen, ac mae'n debyg ei fod wedi disgyn i’r môr oddi ar long gargo mewn storm.
Roedd garej y West End yn cynnwys pympiau petrol a siop. Ehangwyd y cyfleusterau yn ddiweddarach ar gyfer rôl newydd fel cartref i gwmni Bysus Nefyn, sy’n darparu gwasanaethau bysiau lleol, a chanolfan brofi MoT.
Diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Cod post: LL53 6EG Map