Twll chwarel anferth, chwarel Dinorwig

Twll chwarel anferth, chwarel Dinorwig

Ffurfiwyd y twll dwfn hwn wrth i'r chwarelwyr ddilyn y wythïen o lechi toi gwerthfawr ymhellach ac ymhellach i lawr. Cadwch ar y llwybr troed a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

Yn ôl y cyn-chwarelwr John Roberts, Sinc California oedd enw'r twll. Sinc oedd yr enw a roddwyd gan y chwarelwyr ar gyfer gweithfeydd llechi mewn twll.

Wrth i chi edrych ar y twll o'r llwybr, gallwch weld y clogwyn i'r chwith, sef ymyl adran Braich y chwarel. Dechreuodd y gwaith cloddio yn Braich ym 1822.  Mae'r llwybr yn codi i basio trwy hollt a agorwyd ym mlynyddoedd diweddarach y chwarel. Dyma oedd llwybr y lorïau i gyrraedd adran Garret, ar yr ochr bellaf.

Roedd y llwybr cludo yn disodli twnnel byr ar gyfer trenau lein-gul. Gallwch weld agoriad deheuol y twnnel o'r llwybr. Roedd y rheilffordd ar y bonc yn darparu cyswllt defnyddiol rhwng dwy brif adran y chwarel. Oddi tani roedd twnnel rheilffordd ar y lefel nesaf i lawr, a adnabuwyd fel California. Dyma'r twnnel a arweiniai i ran isaf y twll chwarel.

Ar ben y clogwyn gallwch weld twr uchel o gerrig, a ddefnyddiwyd ar gyfer rhaffordd awyr ar un adeg. Yn uwch i fyny'r mynydd, y tu hwnt i'r twr, roedd tyllau eraill, gan gynnwys Sinc Matilda. Enwyd ardal Matilda yn y chwarel ar ôl gwraig perchennog chwarel, sef Thomas Assheton Smith. Dechreuodd y gwaith yma ar ddiwrnod eu priodas, 17 Hydref 1827.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button