Copa Ceiliog Mawr, chwarel Dinorwig, Llanberis

Copa Ceiliog Mawr, chwarel Dinorwig, Llanberis

Roedd y copa danheddog sy'n codi ger y fynedfa i orsaf bŵer tanddaearol Dinorwig yn niwsans pan oedd yr ardal hon yn cael ei chloddio. Roedd yn cael ei adnabod fel Y Ceiliog Mawr a goroesodd sawl ymgais i'w ddinistrio. Os ydych yn ei weld o'r llwybr troed drwy'r chwarel, peidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

Old photo of Ceiliog Mawr pinnacle after blasting
Y Ceiliog Mawr ar ôl ffrwydrad
© Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Mae'r copa wedi'i ffurfio o ddolerit, craig folcanig galed - gweler y troednodiadau am fanylion. Cloddiodd chwarelwyr llechi'r tir amgylchynol, gan ddatgelu clogwyni cynyddol uchel. Roedd y Ceiliog yn rhwystr peryglus rhwng ardaloedd Wellington a Fictoria yn y chwarel. Roedd arbenigwyr 'abseilio' y chwarel yn ei archwilio'n rheolaidd am arwyddion o graig rhydd. Creigiau'n disgyn oedd achos pennaf marwolaeth yn chwarel Dinorwig.

Cafodd ffrwydrad mawr i leihau'r Ceiliog ei baratoi ym 1887. Rhybuddiwyd preswylwyr Llanberis gan brif gwnstabl Sir Gaernarfon i fynd y tu allan i'w tai ar yr adeg benodol, gan adael eu drysau a'u ffenestri ar agor, gan fod disgwyl ton bwysedd bwerus o'r ffrwydrad.

Chwe blynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth Mrs Assheton Smith, gwraig perchennog y chwarel, danio ffiws ar gyfer ffrwydrad arall, gan danio ffrwydron wedi'u pacio mewn 11 siafft oedd wedi'u cloddio'n arbennig. Amcangyfrifwyd bod uchder y ceiliog cyn y ffrwydrad dros 80 metr (270 troedfedd).

Ym 1896, roedd yr Arglwydd Penrhyn a'r Arglwydd Mostyn ymhlith gwesteion a wahoddwyd i wylio dymchweliad y Ceiliog, yn defnyddio ffrwydron gan gwmni Nobel. Fe wnaeth y canlyniad tila siomi'r dyrfa fawr ac atgoffa'r Arglwydd Mostyn o bosib o ddiwedd tebyg i'w ffrwydrad mawreddog yn chwarel calchfaen Rhiwledyn ym 1891. Llwyddodd gwŷr yr Arglwydd Penrhyn i ddod â chopa o graig folcanig galed i lawr yn chwarel lechi'r Penrhyn ym 1895.

Ar ôl dau ffrwydrad arall ym 1905, roedd cannoedd o chwarelwyr yn methu gweithio ar bonciau cyfagos tra'r oedd y Ceiliog yn cael ei wneud yn ddiogel. Adroddwyd bod ychydig o “lechi rhagorol” wedi'u datgelu lle cafodd y "graig ddrwg" ei thynnu.

Ail-fodelwyd yr ardal ar gyfer adeiladu'r orsaf bŵer yn y 1970au. Roedd hyn yn cynnwys llenwi (gyda'r graig a gloddiwyd) rhan Hafod Owen o'r chwarel - ceudwll dwfn rhwng y Ceiliog a phonc Efrog Newydd. Mae tŷ injan Hafod Owen i'w weld yn Gilfach Ddu.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Diolch i Dr Jana Horak, o Fforwm Cerrig Cymru

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button