Hen inclên C4, chwarel Dinorwig

Hen inclên C4, chwarel Dinorwig

O'r troad llym yn y llwybr troed drwy'r hen chwarel lechi, gallwch weld rhan o'r waliau cerrig sychion aruchel a adeiladwyd ar gyfer yr inclên C4. Er mwyn eich diogelwch, cadwch ar y llwybr troed a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

Aerial photo of C4 incline and mill in 1946

Yr inclên oedd y pedwerydd yn y gyfres a ddechreuodd gyda C1 ger glannau Llyn Peris a gorffen ar dop C9, tua 480 metr (1,580 troedfedd) yn uwch. Roedd yr inclêns C yn nodi ffin ddeheuol yr ardal helaeth lle'r oedd llechi yn cael eu tynnu o'r mynydd. Defnyddiwyd tir y tu hwnt i'r inclêns i brosesu llechi ac i ddadlwytho symiau enfawr o wastraff llechi.

C4 oedd un o'r inclêns hiraf yn y gwaith llechi. Roedd ganddo raddiant o thua 1 mewn 3 (yn codi un metr fertigol am bob tri metr llorweddol). Roedd yn dod â llechi i lawr i lefel Bonc Isaf Braich, lle'r oedd melin fawr i dorri llechi. Roedd yn mynd heibio dros dair ponc lle darparwyd agoriadau ar gyfer wagenni lein gul i fynd drwy'r wal.

Yn awyrlun 1946, drwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, mae'r inclên C4 yn rhedeg ar draws y canol. Mae adeilad hir y felin yn y chwarter gwaelod ar y dde. Mae tomenni llechi pob ponc ar y dde.

Wrth i chi weld waliau'r inclên C4 o'r troad yn y llwybr, sylwch yn syth o'ch blaen ar yr agoriad bychan gyda'r bwa trionglog anarferol. Rydych yn sefyll ar yr hyn a arferai fod yn bonc o'r enw Dyffryn. Roedd wagenni rwbel yn cael eu symud drwy'r agoriad i ben draw trac rheilffordd y lein gul, lle byddai "dynion ysbwriel" - oedd yn cael eu talu fesul tunnell o graig - yn dadlwytho'r gwastraff.

Mae rhai o drawstiau pren rheilffordd y bonc wedi'u mewnblannu yn y llwybr troed y tu ôl i chi. Roedd rheiliau haearn wedi'u cysylltu i'r trawstiau.

Gallwch weld sawl wagen rwbel rydlyd yn y gloddfa o dan y bonc.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button