Ponc Isaf Braich, chwarel lechi Dinorwig

Ponc Isaf Braich, chwarel lechi Dinorwig

Mae'r llwybr troed yma ar draws yr hen chwarel lechi yn croesi'r bonc a gaiff ei hadnabod fel Ponc Isaf Braich. Cadwch ar y llwybr troed a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

I'r de-ddwyrain o'r llwybr, gallwch weld seiliau un o adeiladau mwyaf y chwarel, melin lle'r oedd symiau mawr o lechi yn cael eu llifio a'u prosesu. Pan agorodd y felin ym 1927, roedd ganddi 108 o fyrddau llifio - mwy nag unrhyw felin arall yn Ninorwig ar y pryd.

Roedd sawl gefail gof yn y chwarel ac roedd dwy ohonynt ym Mhonc Isaf Braich. Roedd y chwarelwyr yn talu i'r gofaint am atgyweirio eu teclynnau. Roedd y gofaint yn hunan-gyflogedig, yn talu rent i gwmni'r chwarel ac yn talu am lo.

Mae cliw yn enw'r bonc o ran sut gafodd yr ochr hon o'r chwarel ei datblygu. Yn y degawdau cynnar, roedd llechi yn cael eu symud o'r chwarel drwy Allt Ddu, ar ochr bellaf y chwarel (i'r gogledd-orllewin o fan hyn). Roedd Ponc Isaf Braich oddeutu'r un uchder, tua 300m (1,000 troedfedd) uwchben lefel y môr. Roedd llechi o'r ponciau uwch yn cyrraedd yma ar inclêns disgyrchiant.

Roedd cloddio'r llechi o lefelau is yn aneffeithlon oherwydd roedd angen i'r graig gael ei llusgo i'r lefel hon i gael ei symud. Pan werthodd yr Arglwydd Niwbwrch ei dir ar bwys Llyn Padarn, o'r diwedd roedd perchennog chwarel Dinorwig, Thomas Assheton Smith yn gallu adeiladu ei Reilffordd Padarn ar hyd y glannau a agorwyd ym mis Ionawr 1843. Yna, roedd llechi o dan Bonc Isaf Braich yn gallu cael eu cludo'n effeithlon i lawr ac ymlaen i'w borthladd yn Y Felinheli.

I'r gorllewin o'r llwybr troed, saif adfail tŷ weindio a adeiladwyd ar ochr ei ragflaenydd. Roedd y strwythur hwn yn rheoli disgyniad wagenni ar yr inclên C3. Cafodd yr inclêns o'r fan hyn i lawr eu dargyfeirio rhwng y rhyfeloedd byd. Nid oedd y tŷ weindio C3 gwreiddiol wedi'i ongli'n gywir ar gyfer yr inclên newydd felly adeiladwyd un arall wrth ei ochr. Gosodwyd cwt y braciwr y tu mewn i'r tŷ weindio gwreiddiol.

Yn arwain i fyny tua'r gogledd o'r fan hyn oedd inclên C4, un o rai hiraf y chwarel.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button