Llwybrau rheilffordd y domen wastraff, chwarel Dinorwig

Llwybrau rheilffordd y domen wastraff, chwarel Dinorwig

Wrth i chi edrych lawr o'r fan hon ar y llwybr troed traws-chwarel, gallwch weld lle'r oedd y traciau rheilffordd lein-gul yn lledu ar gyfer wagenni bach i greu'r twmpathau enfawr o wastraff llechi sy'n dominyddu'r dirwedd. Cadwch ar y llwybr a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

Ponc Pen Diffwys yw'r bonc oddi tanoch. I’r dde, ceir olion adeiladau hir a chul lle'r oedd llechi yn cael eu prosesu. Fe wnaeth adeiladu'r ffordd gludo ar ôl y rhyfel (y llwybr troed erbyn hyn) ddifodi rhai o'r adeiladau yn rhannol. Mae troed yr inclein C3 y tu hwnt iddynt ynghyd ag adfail y tŷ weindio C2, oedd yn rheoli disgyniad wagenni o Ben Diffwys.

Roedd llechi yn cael eu cloddio ar ochr bellaf yr incleiniau C ac roedd gwastraff yn cael ei gludo i'r ochr yma i gael ei waredu ar hen dir fferm. Roedd rhai o'r traciau rheilffordd yn nhomen Pen Diffwys yn gyflin â'r cyfuchliniau, er mwyn dadlwytho'r graig ar yr ochr bellaf.

Roedd traciau eraill yn crymu'n llym er mwyn dadlwytho gwastraff i lawr heibio ochr y domen wreiddiol. Roedd y defnydd ohonynt ar ei anterth ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Ond erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y mwyafrif wedi mynd. Byddai rhagor o dipio wedi gorlwytho tomen lechi'r bonc nesaf i lawr.

Roedd rwbel yn cael ei gludo mewn wagenni tair-ochr. Roedd gweithwyr yn gwthio un wagen ar y tro i ben draw trac, ac yna'n codi un pen  er mwyn i'r garreg lithro allan drwy'r pen agored. Cafodd rhai eu cosbi am adael i wagen rowlio i lawr y llechwedd. Defnyddiwyd ceffylau i adfer wagenni ffoëdig weithiau.

Dim ond canran fechan o'r graig a gloddiwyd yn Ninorwig oedd yn addas ar gyfer llechi toi. Cafodd rhai slabiau eu troi'n fyrddau snwcer, cerrig beddi a gwrthrychau eraill.

Cynhyrchwyd gwastraff ar sawl cam, yn gyntaf wrth wneud y llechen dda yn hygyrch. Yna, roedd timau bychan o chwarelwyr medrus (yn aml yn cynnwys brodyr, meibion neu neiaint) yn chwythu rhannau hydrin yn rhydd ac yn gwahanu'r graig wael ar gyfer ei thipio. Roedd llifio'r lechen dda i ffurfio petryalau yn cynhyrchu torion gwastraff. Ar ôl gweithrediadau cloddio, roedd "sbwriel" weithiau yn cael ei glirio o rannau uwch y clogwyni i osgoi'r risg o gwympiadau creigiau annisgwyl. Gallai hynny gynnwys mwy o ffrwydro.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button