Ponc Efrog Newydd, chwarel Dinorwig

Ponc Efrog Newydd, chwarel Dinorwig

Os ydych yn darllen hwn ar ôl sganio'r codau QR ar y ffens, rydych nawr yn Efrog Newydd! Dyma'r enw a roddwyd i'r bonc hon yn y chwarel. Cadwch ar y llwybr troed a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

Ar y gwastadeddau ar y ddwy ochr i'r ffens, byddai rhesi gwaliau (sef cytiau ag un ochr agored), lle byddai'r holltwyr llechi medrus yn cynhyrchu llechi toi drwy hollti'r haenau tenau o graig. Ym 1890 roedd 74 o'r gwaliau yma, gyda'r nifer fwyaf yn adran Braich y chwarel. Roedd llawer o'r holltwyr yn dioddef problemau iechyd. Roedd llawer ohonynt yn cael clwyf y marchogion o ganlyniad i eistedd drwy'r dydd ar seddi oer.

Y tu hwnt i'r gwastadedd i'r gogledd-orllewin o'r llwybr lleolwyd twll chwarel anferth, sef Sinc Hafod Owen. Llenwyd y twll yn ystod y 1970au gyda cherrig a gloddiwyd er mwyn adeiladu gorsaf bŵer tanddaearol Dinorwig. Ar ben pellach y gwastadedd gallwch weld copa o ddolerit a adwaenir fel Y Ceiliog Mawr.

Ym 1899 anafwyd Griffith Owen o Nant Uchaf yn ddifrifol ar bonc Efrog Newydd gan wagen reilffordd wedi'i lwytho â llechi.  Gan ei fod yn fyddar, ni chlywodd sŵn y wagen yn nesu y tu ôl iddo.

Hwyliodd llawer o ddynion o chwareli gogledd Cymru i Efrog Newydd i chwilio am well cyflog ac amodau gwaith yno. Byddai perchnogion chwareli llechi yn Efrog Newydd a Vermont yn targedu chwarelwyr o Lanberis a chymunedau llechi eraill.

Cafodd dau ddyn o Lanberis eu recriwtio gan Richard Williams o Granville, gan deithio yn rhad ac am ddim i Efrog Newydd a chanfod wedyn ei fod wedi addo cyflog uwch na'r hyn oedd ar gael mewn gwirionedd.  Cysylltodd chwarelwyr yno â'r wasg ym 1891 i rybuddio chwarelwyr eraill o Lanberis am y twyll.

Symudodd rai chwarelwyr i dde Cymru. Un o'r rhain oedd John G Williams o Lanberis, a weithiai ar bonc Efrog Newydd. Yn ei amser cinio olaf yma ym mis Tachwedd 1900 cynhaliwyd seremoni i ffarwelio ag ef oedd yn cynnwys adrodd storïau, canu a chyflwyno pwrs o arian. Ar ddiwedd y seremoni canodd yr holl chwarelwyr Hen Wlad fy Nhadau, yr anthem genedlaethol. Roedd seremonïau fel hyn yn draddodiad yn y chwarel pan fyddai gweithwyr yn ymddeol neu'n symud i ffwrdd.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button