Gweddillion tŷ weindio dwbl, Efrog Newydd, chwarel Dinorwig

Gweddillion tŷ weindio dwbl, Efrog Newydd, chwarel Dinorwig

Ar ochr y llwybr ar bonc Efrog Newydd ceir gweddillion y tŷ weindio dwbl anarferol oedd yn rheoli symudiad y wagenni ar yr inclein pedwar-trac. Cadwch ar y llwybr a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

Aerial view of Dinorwig C1 incline in 1946Yn wreiddiol, cludwyd y llechi o Efrog Newydd i Muriau, ar lefel y llyn, ar hyd inclein ymhellach i'r gogledd. Adeiladwyd yr inclein pedwar-trac, a adnabuwyd fel C1, tua 1918. Roedd yn ymuno â dau inclein arall ymhellach i fyny, sef C2 a C3. Roeddynt yn incleiniau disgyrchiant. Byddai'r wagenni llawn yn tynnu'r rhai gwag ar geblau oedd yn pasio drwy'r tai weindio, gyda breciau yn rheoli symudiadau'r wagenni.

Gellir gweld yr inclein pedwar-trac yn rhan isaf awyrlun 1946, drwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru. Roedd tro siarp wrth ei droed. Yn y gornel uchaf ar y dde gwelir adeilad mawr melin Efrog Newydd. Yn y llun gwelir bod incleiniau gwreiddiol C1 a C2 bron wedi diflannu erbyn 1946 o ganlyniad i ragor o weithgaredd y chwarel.

Roedd yr inclein pedwar-trac yn gweithredu yn yr un modd â rheilffordd pedwar-trac: dau drac ar gyfer symudiadau pell a dau ar gyfer teithiau lleol. Defnyddiwyd y traciau mwyaf deheuol dim ond ar gyfer cysylltu Efrog Newydd i Muriau. Roedd y ddau bâr arall yn hwyluso mynediad i'r tair ponc canolradd. Mae'r pwyntiau mynediad i'r ponciau hynny i'w gweld fel cysgodion siâp triongl yn yr awyrlun.

Roedd y pwyntiau mynediad yn cysylltu â thrac mwyaf gogleddol yr inclein, oedd yn cludo'r holl wagenni llawn a gwag ar gyfer y ponciau canolradd. Defnyddiwyd y trac gerllaw ar gyfer wagenni balast. Roeddynt yn ddigon trwm i dynnu'r wagenni gwag i fyny, ond yn ddigon ysgafn i ddychwelyd i'r pen uchaf wrth i'r wagenni llawn ddisgyn i lawr i Muriau.

Roedd gan bob pâr o draciau ei ddrwm weindio ei hun yma. Swyddogaeth y wal isel rhwng waliau'r talcenni oedd cynnal berynnau ar gyfer pob drwm. Sylwch ar y defnydd o flociau mawr o garreg lle'r oedd y waliau ar y pen yn cario pwysau'r drymiau, a'r darnau llai lle'r oedd y waliau'n cynnal dim ond pwysau'r to. 

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button