Ymyl deheuol tomenni gwastraff y chwareli, ger Nant Peris

Yma mae’r llwybr ar draws y chwarel yn cyrraedd pen pellaf y tomenni eang o garreg gwastraff sydd mor amlwg yn y tirlun ger Nant Peris. Cadwch ar y llwybr troed a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.

Mae'r ffin bendant rhwng y tir ffermio a'r tomenni cerrig yn dangos sut y bu i arwynebedd y chwarel ehangu'n barhaus ar draws ochr y bryn tan i'r chwarel gau ym 1969. Dim ond canran fechan o'r graig a gloddiwyd o'r mynydd oedd yn addas i'w hollti ar gyfer llechi toi. Gadawyd y rhan fwyaf mor agos â phosib i weithfeydd y chwarel.

Yma gallwch weld yn eglur fod tomen gwastraff ar bob ponc yn adran Braich y chwarel. Erbyn y 1880au roedd y tomenni gwastraff eisoes wedi ymestyn yn bell i'r de-ddwyrain o'r ponciau canol ac uwch.

O dan y tomenni hynny roedd dwy fferm ddefaid, sef Garreg Wen a Garreg Wen Uchaf. Erbyn yr Ail Ryfel Byd roedd Garreg Wen Uchaf wedi diflannu o dan y cerrig gwastraff. Fodd bynnag, ni chafodd Garreg Wen ei lyncu ynghanol y gwastraff. Mae gweddillion y fferm wedi’u lleoli lle gwelir grŵp o goed i'r dde o'r domen wastraff agosaf wrth i chi edrych i fyny'r bryn o'r llwybr.

Arferai'r chwarelwyr oedd yn byw yn Nant Peris gerdded heibio Garreg Wen ar eu ffordd i'r gwaith. O Garreg Wen roedd ganddynt ddewis o lwybrau, yn arwain at wahanol bonciau'r chwarel. Anaml iawn y byddai swyddogion wrth y tomenni gwastraff, felly roedd yn haws i'r weithwyr ddianc adref yn gynnar, heb i neb sylwi, o ochr yma'r chwarel nag wrth orfod teithio heibio'r melinau a'r swyddfeydd yn y pwyntiau mynediad eraill.

Sylwch ar y coed bedw arian sy'n dechrau tyfu mewn mannau ar y gwastraff. Maent yn rhywogaeth arloesol, sy'n llwyddo i dyfu ar dir diffaith lle mae digon o  leithder.

Mae ffin Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dilyn afon Dudodyn heibio ymyl y tomenni gwastraff. Ni chynhwysir safleoedd y chwareli mawr yn y parc cenedlaethol (sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y tirlun naturiol). Rhoddwyd cydnabyddiaeth ryngwladol iddynt yn 2021 gyda dynodiad Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button