Saeth y Llu Awyr, ger Llanbedrog
Saeth y Llu Awyr, ger Llanbedrog
Gerllaw y rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru, mewn cae amaethyddol, mae saeth goncrit enfawr, wedi’i chodi gan y Llu Awyr. Nid oes mynediad cyhoeddus i’r cae – felly peidiwch â mynd i mewn iddo. Defnyddiwch y map isod i weld llun diweddar o’r saeth o’r awyr.
Mae’r saeth yn anelu allan i’r môr i gyfeiriad llwybr hedfan awyrennau o RAF Penrhos i faes saethu ger Abersoch. Safai’r maes saethu i’r de-orllewin o’r fan hon, ond roedd y llwybr hedfan dros y môr yn hytrach na’r tir. Mae’r llun ar y dde, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y saeth (cornel dde isaf) a’r maes awyr ym mis Awest 1945.
Agorodd RAF Penrhos ym 1937 ar dir fferm ar yr ochr arall i'r A499 (i'r gogledd o'r fan hon). Yn y gwersyll fe ddysgwyd hanfodion bomio a saethu. Wedi wythnosau o gyfarwyddyd ymarferol, byddai’r myfyrwyr yn rhoi’r addysg ar waith yn RAF Porth Neigwl.
Er ei fod ymhell o dir mawr Ewrop, ni lwyddodd RAF Penrhos i osgoi sylw llu awyr yr Almaen. Ymosododd y Luftwaffe ar sawl achlysur yn haf a hydref 1940, gan ddinistrio awyrennau, gwneud difrod i isadeiledd, yn ogystal â lladd personél yr RAF.
Gwnaed cyhoeddiad gan y Weinyddiaeth Awyr yn y 1930au ei bod yn bwriadu adeiladu maes awyr ym Mhenrhos. Fe groesawyd y cyhoeddiad gan nifer, a oedd yn ei weld fel cyfle i gael gwaith. Ond roedd y cynllun yn wrthun gan eraill, yn enwedig i genedlaetholwyr heddychol. Ym 1936, yn ystod y gwaith adeiladu, torrodd tri o sefydlwyr Plaid Cymru - Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Roberts - i mewn, gan roi rhai o’r adeiladau ar dân. Yna, aethant i Bwllheli a’u cyflwyno eu hunain i’r heddlu. Cafwyd achos dadleuol, a charcharwyd y tri ohonynt.
Caeodd RAF Penrhos ym 1946, a defnyddiwyd rhai o’r adeiladau fel gwersyll ailsefydlu ar gyfer milwyr o Wlad Pwyl na allent, neu nad oeddent am fynd yn ôl i’w mamwlad. Mae pobl o Wlad Pwyl, neu pobl o dras Bwylaidd, yn dal i fyw yno. Mae gweddill yr hen faes awyr bellach yn barc carafannau a chwrs golff.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, ac i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
![]() |
![]() ![]() |