Safle crogi llongddryllwyr ger Llanbedrog
Safle crogi llongddryllwyr ger Llanbedrog
Yn ôl y bardd Ieuan Llŷn (1969-1832) fe gafodd dau ddyn eu crogi yn 1629 neu 1630 yn rhywle yng nghyffiniau traeth Crugan oherwydd iddynt fod yn rhan o ymosodiad mileinig ar long Ffrengig. Yn ôl yr hanes fe adawyd eu cyrff i bydru fel rhybudd i’r Cymry.
Yr adeg hynny roedd achosion lawer o bobol mewn cymunedau arfordirol yn cynnau tân er mwyn denu llongau ar y creigiau. Y nod arferol oedd ysbeilio cargo gwerthfawr. Y tro hwn fodd bynnag, llong bleser yn cario gŵyr bonheddig a merched ifanc o Ffrainc a ddrylliwyd. Mae’r bardd hefyd yn egluro yn ei gerdd sut y denwyd y llong i Borth Neigwl trwy losgi gwellt a rhedyn ac fel y bu i’r ysbeilwyr dorri bysedd a chlustiau er dwyn modrwyau aur yn ogystal â thaflu’r genethod ifanc i’r tonnau.
Cafwyd dau yn euog, sef Sion y Sarn a Huw Treheli. Crogwyd nhw ar ddau bolyn mawr ar Forfa Crugan. Yn ôl gwybodaeth arall bu cosb ychwanegol pan fu i lawer o gnydau ddifetha ar draws Penrhyn Llŷn yn y flwyddyn ganlynol.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn llwybr yr hen dramffordd gyferbyn â thraeth Crugan. Sefydlwyd Tramffordd Pwllheli a Llanbedrog yn 1894 gan y dyn busnes o Gaerdydd, Solomon Andrews. Yn wreiddiol roedd y dramffordd yn rhedeg o Bwllheli i Carreg y Defaid, penrhyn bychan i’r gorllewin o’r traeth.
Yn ddiweddarach cafodd ei hymestyn i Lanbedrog ar ôl iddo brynu Plas Glyn-y-Weddw, sydd erbyn hyn yn oriel luniau hynaf Cymru. Mae’r unig gerbyd tram sydd ar ôl i’w weld ger y Plas. Cafodd y rhan fwyaf o’r dramffordd ei chau yn dilyn difrod gan storm yn 1927. Mae’r hen lun yn dangos cerbydau tram agored a chaeedig ar y traciau gyferbyn â thraeth Crugan.
Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
![]() |
![]() ![]() |