Maen crwydr o Oes yr Iâ ger Porthlysgi, Tyddewi

Maen crwydr o Oes yr Iâ ger Porthlysgi, Tyddewi

Ar lwybr yr arfordir ger Porthlisgi mae maen hollol nodedig. Mae’n un o’r creigiau prin hynny sy’n cael ei henwi ar fapiau’r Arolwg Ordnans! A chithau newydd sganio’r codau QR ger Bae Porthlisgi, mae’r graig c.110 o fetrau tua’r de-ddwyrain.

Mae’r graig yn faen crwydr o Oes yr Iâ. Mae hynny’n golygu ei fod o gyfansoddiad gwahanol i eiddo’r graig y mae’n gorwedd arni, gan ei bod wedi’i chludo o safle arall gan symudiad yr iâ. Mae lleoliad meini crwydr yn gymorth i wyddonwyr ddeall sut y symudodd rhewlifau yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae’n ymddangos bod y graig hon wedi dod bob cam o ogledd-orllewin Cymru - gweler y troednodiadau.

Old photo of picrite boulder near St DavidsYn 1891 cadarnhawyd mai picrit ydoedd – mwyn o’r enw olefin a mymrynau o gornblith, awgit, mica, ffelsbar. Mae’r ffurf ‘picrite’ wedi’i argraffu ar fapiau AO er ail argraffiad 1906.

Yn 1902 cododd y Gymdeithas er Diogelu Henebion Sir Benfro, gyda chefnogaeth ariannol gan y Comisiwn Eglwysig, gaets haearn dros y maen er mwyn ei amddiffyn. Roedd gormod o amaturiaid o ddaearegwyr yn torri darnau er mwyn mynd â nhw adref. Mae’r cerdyn post, o’r cyfnod hwn yn fras, yn disgrifio’r graig ar gam fel meteorit. Mae rhai meteoritau yn meddu ar gyfansoddiad tebyg i picrit.

Ymhen amser gwthiwyd y maen a’r caets dros y clogwyn. Yn ddiweddarach defnyddiwyd hofrennydd i osod graig yn y man lle y mae ar hyn o bryd.

Yr enw:
O draethell fechan Porth Lisgi, sef harbwr neu fae Lisgi, y tardd enw’r fferm Porthlysgi neu Porthllysgi. Mae’n debygol mai enw personol yw Lisci neu Lisgi ac mae wedi’i gysylltu â Lisci fab Paucaut neu Paucairt ym Muchedd Dewi, sy’n perthyn i’r cyfnod c. 1200.

Yn ôl y chwedl cafodd y dyn drwg Boia, gelyn i Ddewi Sant, ei ladd gan Lisci. Er bod Lisci wedi’i gofnodi’n enw Picteg, mae’n debycach o lawer, yn yr achos hwn, ei fod yn enw Gwyddeleg, fel Boia, sy’n cael ei goffáu gan yr enw Clegyr Boia (craig Boia) i’r gogledd o Porthlysgi. Mae enwau lleoedd ac enwau personol ynghyd â ffynonellau eraill yn dystiolaeth ddigonol o bresenoldeb Gwyddelig yng ngorllewin Cymru yn gynnar yn yr Oesoedd Canol.

Diolch i Michael Statham, o Fforwm Cerrig Cymru, ac i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

Troednodiadau: Hynt y maen crwydr

Flynyddoedd maith yn ôl, mae’n debygol bod llawer o feini wedi’u gwasgar ar hyd a lled yr ardal hon, meini lleol gan mwyaf, wedi’u gollwng gan rewlifoedd. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw wedi eu symud bellach oddi ar y tir a’u cynnwys yn y welydd sy’n amgáu’r caeau.

Er bod picrit yn brigo yn Sir Benfro, mae cyfansoddiad mwynol y maen dan sylw yn wahanol o ran ei natur i’r picrit lleol ond yn ymdebygu’n fawr i’r hyn a geir ar benrhyn Llŷn ac yn Sir Fôn, sef ei darddiad tebygol.

Mae’r dehongliad hwn yn peri anhawster: Petai’r rhewlif wedi llifo’n ddirwystr dros Ynys Môn a Llŷn ac ar hyd Môr Iwerddon i Sianel San Siôr gallai fod wedi mynd heibio i’r fro hon, a byddai gogledd Cymru yn darddiad llai tebygol ar ei gyfer.

Yn yr ardal hon, sut bynnag, darganfuwyd bod crafiadau (a elwir yn rhigolau rhewlifol) a wnaed ar y creigwely gan ddernynnau ar odre’r rhewlif, yn estyn o’r gogledd-orllewin tua’r

de-ddwyrain. Mae rhai rhewlifegwyr, o ganlyniad, yn dyfalu i’r iâ yn Sianel San Siôr gael ei wasgu rhwng dau gapan iâ, y naill ohonyn nhw yn ne-ddwyrain Iwerddon a’r llall ym Mae Ceredigion. Wedi gwasgu drwy’r cyfyngiad hwn, byddai’r rhewlif yn gallu ymledu megis piedmont tua’r de-orllewin a’r de-ddwyrain. Os mai dyna a  ddigwyddodd, byddai iâ o du Ynys Môn neu o Lŷn yn fwy tebygol o fod wedi symud dros yr ardal hon.