Yr ‘Heol Aur’ llwybr cynhanesol, Preseli

button-theme-prehistoric-more CUPHAT

Mae’r llwybr sy’n arwain o’r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin rhwng Bwlch y Gwynt a Foel Drygan yn dilyn yr ‘Heol Aur’, ffordd hynafol ar draws yr ucheldir sy’n mynd heibio i amryw  henebion cynhanesol. Mae’r ardal yn cael ei gwarchod gan sawl dynodiad cadwriaethol -  dilynwch reoliadau cefn gwlad a pheidiwch ag ymyrryd â dim.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd Fleming’s Way (Via flandrensica) yn dynodi’r hen lwybr. Yr adeg honno roedd y cloddiau pridd amlwg yn nodi ffiniau tiroedd penodol. Roedd Ffleminiaid wedi ymsefydlu yn Sir Benfro yn dilyn y Goresyniad  Normanaidd, ond bodolai llwybr dros y bryniau hyn filoedd o flynyddoedd cyn hynny.

Mae’r Heol Aur yn mynd trwy ganol cylch cerrig o’r enw Bedd Arthur neu Garn Arthur. Ni ellir bod yn sicr a yw’r heneb yn perthyn i’r cyfnod cynhanes neu i’r cyfnod canol. Mae Bedd Arthur, fe ymddengys, ar dir sydd wedi’i wastatáu ar gyfer gosod yr heneb. Mae rhai o’r cerrig ar eu sefyll, eraill yn gorwedd.

Credir mai o chwarel Neolithig Carn Goedog y daeth y cerrig glas ar gyfer adeiladu Côr y Cewri, ger Caersallog.

Mae amryw henebion ger Caer Menyn, cerrig brig ar dir uwch, ychydig i’r de o’r llwybr. Yn eu plith mae beddrod,  sef carn o gerrig wedi’u gosod o amgylch siambr ganolog. Ffurfir to’r siambr gan faen enfawr, 3 x 2.5 metr. Cafodd ei osod ar feini unionsyth ac mae rhai o’r rhain wedi disgyn bellach. Mae carnedd sylweddol gerllaw a’i thrawsfesur yn 15 metr, ac at hyn maen hir; roedd yno, yn gymorth o bosibl, i deithwyr ar dywydd niwlog.

Ar gopa Foel Drygarn ceir olion bryngaer o’r Oes Haearn (mae llwybrau bob cam o’r ffordd), a gellir gweld ffosydd amddiffyn a seiliau cutiau. Roedd defnydd yn cael ei wneud o’r safle am ganrifoedd. Mae yno dair domen gladdu yn ogystal o’r Oes Efydd, c. 3,000 CC i 1200 CC.

Mae’r model tri dimensiwn isod gan CUPHAT yn dangos carreg gafnog y cafwyd hyd iddi wrth y bryngaer yn 1899. Mae hi bellach yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod. Credid mai lamp oedd hi, oherwydd yr olion llosg, ond gallai fod yn fowlen neu’n llestr pwyo.

Diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Gweld Map y Lleoliad

Gwefan 'Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth' – mwy am leoedd i ymweld â hwy