Cynefin cerrig glas Côr y Cewri, ger Mynachlog-ddu, Mynydd Preseli

button-theme-prehistoric-more CUPHAT

Ucheldiroedd a dyffrynnoedd ardal Ffynnon-groes yw tarddle cerrig glas Mynydd Preseli sef y cerrig glas sy’n ffurfio Côr y Cewri ar Wastadedd Caersallog. Mae’r ardal yn cael ei gwarchod gan sawl dynodiad cadwriaethol -  dilynwch reoliadau cefn gwlad a pheidiwch ag ymyrryd â dim.

Photo of Carn Goedog bluestone quarry during a digDygwyd 80 o gerrig gleision o Fynydd Preseli i Gôr y Cewri c. 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae gan y meini mawrion (y megalithiau) olion bysedd daearegol neilltuol. Er 2011 mae astudiaethau gan archeolegwyr wedi paru’r olion bysedd hynny â dwy chwarel Neolithig yn yr ardal hon.

Symudwyd monolithiau  (blociau carreg hir) o wyneb deheuol craig Carn Goedog. Isod gwelir llwyfan cerrig ar gyfer eu llwytho ar geirt llusg a oedd wrth odre’r garreg frig, metr islaw’r llwyfan. Mae tameidiau o olosg yn awgrymu dyddiad 3,400-3000 CC. ar gyfer y llwyfan.

Mae craig Caer Goedog yn paru â’r cerrig glas dolerit brith sef y math mwyaf cyffredin o garreg las a geir yng Nghôr y Cewri. Ymhlith yr offer cynhanesyddol y cafwyd hyd iddyn nhw yn y chwarel mae lletemau carreg a cherrig morthwylio. Mae’r llun uchaf (trwy gwrteisi  Adam Stanford) yn dangos y chwarel yn ystod cloddio archaeolegol yn 2016. Mae Carn Goedog yn agos at yr ‘Heol Aur’ cynhanesol.

Photo of stone 62 at StonehengeMae un o’r cerrig gleision yng Nghor y Cewri (Carreg 62) o ddolerit di-staen ac yn dod o Garn Ddu Fach (llun trwy gwrteisi Adam Stanford).

Daw un o’r cerrig glas rhyolit yng Nghôr y Cewri o Graig Rhosyfelin, sy’n brigo ychydig i’r gogledd rhwng Ffynnon-groes a Brynberian. Symudwyd un maen mawr o’r fan hon gan y chwarelwyr Neolithig a gyrrwyd lletemau carreg i wyneb y graig er mwyn rhyddhau ail faen. Rhoddwyd y gorau i’r ymdrech, sut bynnag. Gadawyd y maen lle’r oedd  - a dwy letem yn gwmni iddo. Cafwyd hyd i olion lle tân a masgl llosg cnau cyll, lle roedd y chwarelwyr, o bosibl, wedi bod yn rhostio cnau ar egwyl. 

Ni wyddys pam yn union y cafodd y cerrig glas eu cludo c.290km (c. 180 milltir) i Gôr y Cewri. Ond mae’n amlwg eu bod yn cael eu hystyried yn gerrig arbennig. Un ddamcaniaeth yw eu bod yn cynrychioli gwreiddiau hynafol ffermwyr Neolithig Mynydd Preseli a ailsefydlodd ar Wastadedd Caersallog. Mae’n ddigon posibl mai de-orllewin Cymru oedd un o’r ardaloedd cyntaf ym Mhrydain i gael ei amaethu, ac i’r trigolion Neolithig godi cyfadeilau seremonïol yng ngogledd Sir Benfro a oedd yn cynnwys cylchoedd cerrig (llai na Chôr y Cewri). Mae’n bosibl bod cerrig gleision Côr y Cewri wedi’u symud o amryw o’r cylchoedd hyn yn ogystal ag yn uniongyrchol o’r chwareli.

Mae’r ddamcaniaeth bod y meini wedi’u symud gan rewlifau yn tueddu i gael ei diystyru bellach. Mae rhai wedi awgrymu bod y meini wedi’u cludo ar longau neu rafftiau ar draws Môr Hafren. Mae eraill yn barnu eu bod wedi’u cludo ar dir ar draws de Cymru gan rydio afon Hafren. Yr hyn sy’n hollol sicr yw bod y meini wedi eu cludo bellteroedd  ar draws gwlad oherwydd dyw’r chwareli nac ychwaith Gwastadedd Caersallog ger yr arfordir. Mae’n debygol bod ceirt a oedd yn llithro ar gledrau o goed wedi’u defnyddio.

Diolch i’r Athro Mike Parker Pearson ac Adam Stanford, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad. Mae’r ffynonellau’n cynnwys adroddiadau ar gynllun Cerrig glas Côr y Cewri, a ‘Stonehenge: a brief history’ gan Mike Parker Pearson, Bloomsbury Publishing 2023.

Gweld Map y Lleoliad

Gwefan 'Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth – mwy am leoedd i ymweld a hwy