Mwyngloddiau Oes yr Efydd, y Gogarth
Mae'r mwyngloddiau copr ar y Gogarth yn dyddio'n ôl i tua 1800CC. Nhw yw'r mwyngloddiau Oes yr Efydd mwyaf a ddarganfuwyd yn unrhyw le yn y byd hyd yma. Fe'u darganfuwyd yn ystod gwaith tirlunio ym 1987, ac ers hynny datgelwyd twneli helaeth a gweithfeydd ar yr wyneb.
Cafodd y mwyngloddiau eu gadael ar ddyfodiad Oes yr Haearn. Ailddechreuodd y gwaith cloddio ar y safle yn yr 17eg ganrif. Erbyn hynny roedd technoleg yn caniatáu i ddŵr gael ei bwmpio allan o'r siafftiau o ddyfnder llawer is nag oedd yn bosibl yn Oes yr Efydd. Roedd y copr a gynhyrchwyd o ansawdd uchel iawn.
Yn y 18fed a'r 19eg ganrif roedd galw mawr am gopr am gladin gwaelodion llongau pren Prydain, gan gynnwys rhai'r Llynges Frenhinol. Mae cladin copr yn ddull ar gyfer amddiffyn cragen llong bren rhag ymosodiad gan lyngyr llongau, barnaclau a thwf morol arall trwy ddefnyddio platiau copr sydd wedi'u gosod ar y coed o dan y ddyfrlin. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd llongau'n cael eu gwneud o haearn a lleihaodd y galw am gopr. Roedd yna gystadleuaeth hefyd gan fwynau copr rhatach o dramor.
Dechreuodd mwyngloddio copr y Gogarth ostwng tua 1849, ond parhawyd i gynhyrchu mwy na 1,000 tunnell o fwyn y flwyddyn tan 1861. Rhoddwyd y gorau i'r brydles olaf yn 1881. Roedd gan un o'r mwyngloddiau swyddfeydd, gweithdai ac injans stêm yng nghyffiniau Church Walks, ac oddi tano mae twnnel mwynglawdd segur.
Mae mwyngloddiau copr y Gogarth yn cynnwys tua 8km o dwneli, orielau a siafftiau a gloddiwyd gan y glowyr. Mae rhai o'r mwyaf ysblennydd, gan gynnwys twneli a cheudyllau a gloddiwyd yn ystod Oes yr Efydd, wedi cael eu hagor i'r cyhoedd ryfeddu atynt.
Mewn cae gerllaw, i'r de o'r mwynfeydd, gallwch ymweld â siambr gladdu Neolithig, o gyfnod cynharach mewn cynhanes.
Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn, a Nick Jowett. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes
Gwefan mwyngloddiau copr y Gogarth Great Orme
Cod post: LL30 2XG Gweld Map Lleoliad