Cromlech Llety’r Filiast, y Gogarth

button-theme-prehistoric-more Mae'r trefniant hwn o gerrig yn weddillion siambr gladdu, neu gromlech, o tua 6,000 i 4,500 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y math hwn o siambr, a ddefnyddiwyd yn gyffredin yn yr oes Neolithig, yn dolmen borth.

photo of great orme cromlechByddai'r gofod o dan y garreg lorweddol wedi cynnwys gweddillion aelodau pwysig o deulu neu gymuned. Gorchuddiwyd y cerrig yn wreiddiol gan domen o ddaear, sydd wedi erydu i ffwrdd ers amser maith. Mewn mannau eraill ar y Gogarth, defnyddiwyd ogofâu ar gyfer claddedigaethau allweddol.

Roedd y cyfnod Neolithig yn gyfnod allweddol yn natblygiad dynol. Cyn hynny, crwydrodd pobl o le i le i chwilio am fwyd, ond tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl dechreuodd pobl aros mewn un lle, gan gynnal eu hunain trwy dyfu cnydau a magu anifeiliaid. Dechreuodd y broses yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica gan ledaenu, dros filoedd o flynyddoedd, yn yr hyn y cyfeirir ato weithiau fel "y chwyldro Neolithig".

Adeiladwyd siambrau claddu cywrain – fel Llety'r Filiast – gan y grwpiau sefydlog hyn, a allai neilltuo adnoddau i brosiectau o'r fath nawr nad oedd eu hamser yn cael ei feddiannu'n llwyr gan hela a chasglu bwyd.

Mae enw'r ddolmen yn gymharol ddiweddar. Mae miliast yn filgi benywaidd.

Dim ond ychydig gannoedd o fetrau yw'r dolmen o'r fynedfa i fwyngloddiau copr ysblennydd y Gogarth. Fodd bynnag, mae'r mwyngloddiau'n dyddio o gyfnod diweddarach o gynhanes, gan ddechrau tua 3,800 o flynyddoedd yn ôl.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad