Safle tirio HMS Conway, Treborth, Bangor
Cafodd llong ryfel hynafol ei dibrisio yn 1953 ar ôl iddi fynd yn sownd ar y tir islaw’r pwynt hwn ar Lwybr Arfordir Cymru.
Lansiwyd y llong ym 1839 fel HMS Nile. Ar ôl degawdau o wasanaeth gweithredol, yn bennaf o amgylch Gogledd yr Iwerydd, cafodd ei hangori yn Rock Ferry, ger Lerpwl, fel cartref newydd ysgol hyfforddi llyngesol HMS Conway. Sefydlwyd yr ysgol yn 1859. Tynnwyd y llong i angorfa yn Afon Menai, i'r gorllewin o bier Bangor, ym mis Mai 1941. Roedd y Luftwaffe yn bomio Glannau Mersi dro ar ôl tro, ac roedd perygl o golli HMS Conway ar adeg o alw cynyddol am hyfforddedigion y llynges.
Gallwch ddychmygu'r effaith y byddai bom neu ddyfais dân wedi'i chael ar y llong bren! Symudwyd y llong ymhellach i'r gorllewin, i angorfeydd ger Plas Newydd, yn 1949. Pedair blynedd yn ddiweddarach, trefnwyd iddi i gael ei hadnewyddu ym Mhenbedw.
Dechreuodd dau tynfad (yn hytrach na'r tri a awgrymwyd gan beilotiaid lleol) ei thynnu ar hyd y Fenai ond ni lwyddant i reoli'r llestr trwm yng nghanol cerhyntau cryf Pwll Ceris (neu'r Swillies). Daw'r cyfres o luniau o gasgliad y diweddar James Roberts.
Mae’r llun canol yn dangos eiliadau olaf HMS Conway ar y dŵr ar ôl 114 o flynyddoedd, tra bod un o’r tynfadau yn straenio i gadw’r llong rhag y creigiau.
Ni allai'r llong gael ei hail-arnofio a chyhoeddwyd ei bod yn golled lwyr. Dechreuwyd ar y gwaith o ddatgymalu'r llong foel yn 1956 ond yn fuan dinistriwyd y rhan fwyaf o'r pren gan dân.
Parhaodd HMS Conway fel ysgol hyfforddi ar y lan ym Mhlas Newydd tan 1974. Un o'r hyfforddedigion olaf yno oedd Clive Woodward, a gafodd ei urddo'n farchog yn ddiweddarach ar ôl hyfforddi tîm rygbi Lloegr i fuddugoliaeth yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2003.
Mae’r ffynonellau yn cynnwys Canolfan Treftadaeth Menai, Porthaethwy
Cod post: LL57 2RQ Map
![]() |
![]() ![]() |