Safle glaniad brenin Gwyddelig yn Y Mabinogi, Harlech

Safle glaniad brenin Gwyddelig yn Y Mabinogi, Harlech

Yn ôl chwedl yn Y Mabinogi, yn yr ardal hon y camodd Matholwch, brenin Iwerddon, i'r lan i ofyn am Branwen, chwaer brenin Prydain Fawr. Arweiniodd ei ddyfodiad yn y pen draw at y drydedd ergyd anhapus i'r ynys hon.

Mae llawysgrifau'r Mabinogi sydd wedi goroesi yn dyddio o'r 14eg ganrif. Roedd Castell Harlech wedi’i adeiladu’n ddiweddar, gyda grisiau i lawr at lan y môr ychydig islaw’r castell. Ers hynny mae'r môr wedi cilio. Roedd y chwedlau eisoes wedi bodoli ers canrifoedd erbyn y 14eg ganrif, ac mae un llawysgrif yn nodi bod Môr Iwerddon yn llai yn yr hen amser, yn cynnwys dwy afon.

Mae stori Branwen yn cychwyn gyda’i brawd Bendigeidfran, cawr, gyda’i lys ar graig Harlech (lle saif y castell heddiw). Daeth llynges ato, gan gludo Matholwch, a gwahoddwyd ef i lanio ar y lan o dan y graig. Y noson honno galwodd Bendigeidfran gyfarfod i gymryd cyngor.

Rhoddwyd Branwen i Fatholwch a chynhaliwyd gwledd ym Môn, ond bu ei brawd Efnisien yn anffurfio ceffylau Matholwch. Teimlai ei fod wedi cael ei sarhau oherwydd na ofynnwyd am ei ganiatâd. Gwnaeth Bendigeidfran iawn drwy amnewid y ceffylau a rhoi crochan hud i Matholwch a oedd wedi ei wneud yn Iwerddon.

Roedd gan Branwen a Matholwch fab, ond byr fu eu hapusrwydd. Roedd cynnwrf cynyddol yn Iwerddon dros sarhad Efnisien a chafodd Branwen ei halltudio i’r gegin, lle roedd y cigydd yn ei churo’n ddyddiol. Ar ôl tair blynedd, clymodd nodyn wrth ei drudwy ddof, a hedfanodd dros y môr i wysio Bendigeidfran, a oedd yng Nghaernarfon.

Hwyliodd ei wŷr i Iwerddon tra oedd Bendigeidfran yn rhydio ar draws, a thybiai'r Gwyddelod fod ynys a choedwig yn agosau. Derbyniwyd yr ymwelwyr mewn heddwch nes i Efnisien, wedi ei sarhau eto, daflu ei nai i'r tân yn sydyn. Yn ystod y frwydr a ddilynodd, lladdodd ei hun wrth ddinistrio’r crochan hud, ac fe darodd dart gwenwynig droed Bendigeidfran.

Pan orchfygwyd y Gwyddelod, dim ond saith o ddynion Bendigeidfran oedd wedi goroesi. Rhoddodd y cawr orchymyn iddynt i dorri ei ben i ffwrdd a mynd ag ef i Lundain yn y pen draw. Wedi dychwelyd i Fôn, roedd Branwen yn beio ei hun am ddinistriad dwy ynys, a bu farw o dorcalon.

Cod post: LL46 2UG    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button