Cymraeg Lady Bute's Bridge, Bute Park
Pont Arglwyddes Bute, Parc Bute
Yn yr ardal hon o Barc Bute gwelwn ddylanwad y merched ar ddatblygiad y parc! Gofynnodd yr Arglwyddes Maria North, gwraig gyntaf Ail Ardalydd Bute, i ffynnon gael ei chloddio ger y bont hon, "i sicrhau dŵr ffynnon". Gallwch weld y ffynnon yn glir o’r fan hon yn y parc.
Gallai'r Arglwyddes Maria (ar y dde) hefyd fod yn gyfrifol am y bont sy’n croesi camlas gyflenwi’r dociau. Yn ôl dogfennau, pan droswyd dyfrffos y felin ganoloesol i ffurfio’r rhan hon o’r gamlas yn 1936-1841, mynnodd rhywun – o bosibl yr Arglwyddes Maria - ar allu croesi’r cwrs dŵr yma. Cyfeiria manyleb adeiladu’r gamlas gyflenwi at y groesfan fel “Pont Arglwyddes Bute”.
Rhoddodd y bont hon fynediad i deulu’r Bute i’w gerddi i’r gorllewin o’r gamlas gyflenwi, gan ddefnyddio ffordd gerbydau a arweiniodd o Borth Gogledd y Castell i allanfa i Stryd y Castell. Mae'r hen lun isod (gyda diolch i Vena a Wynne Edwards) yn dangos y gymlas gyflenwi yn arwain tuag at y bont.
Cafodd llawer o’r bont wreiddiol ei guddio gan addasiadau i’r gamlas gyflenwi yn yr 20fed ganrif. Fe’i hailadeiladwyd yn rhannol yn y 1980au i sicrhau y byddai’n sefyll ar ôl i danciau milwrol ei chroesi - nid i gwrdd â’r gelyn, ond wrth gymryd rhan yn y gorymdeithiau a’r sioeau milwrol a gynhaliwyd yn y castell dros y degawd hwnnw.
Wrth i chi sefyll ar y bont, edrychwch i’r de tuag at ganol y ddinas. Gwelwch fod y gamlas gyflenwi’n troi i’r chwith. Aeth hen nant y felin yn syth ymlaen.
I barhau â thaith Parc Bute, peidiwch a chroesi’r bont ond cerddwch tua’r de ar hyd y llwybr, gyda’r castell a’r dŵr ar eich chwith. Mae’r côd QR ar ffens sy’n arwain at bont tuag at y castell. |