Wal amgáu tir, ger Llithfaen

button-theme-crimeWal amgáu tir, ger Llithfaen

Ger y maes parcio a Llwybr Arfordir Cymru, fe saif olion y Wal Fawr sy’n symbol o amgáu  tir comin a oedd yn fater dadleuol yma ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ar ddechrau’r ganrif honno, roedd ardaloedd ar draws Cymru yn parhau i fod yn dir comin, lle gallai unrhyw dda byw bori. Yn ogystal â hynny, roedd hen arferiad yng Nghymru y gallai unrhyw un a adeiladai dŷ mewn un noson, gyda mwg yn codi o'r simnai ar doriad y wawr, hawlio’r tir y safai’r tŷ arno.

Ers y canol oesoedd, roedd llociau wedi eu rhoi o gylch y tir mwyaf ffrwythlon yng Nghymru a Lloegr, gan ei breifateiddio, ac ym 1812 tro ardal Llithfaen oedd hi. Dechreuodd syrfewyr a chyfreithwyr baratoi ar gyfer cau’r tir amaeth gorau, a fyddai’n rhoi diwedd ar hawl pobl gyffredin i’w ddefnyddio. Byddai unrhyw un a hawliodd berchnogaeth ar dir yn unol â’r arferiad tŷ unnos yn cael ei droi allan oni bai y gallent brofi preswyliad tymor hir.

Cafodd y swyddogion eu pledu â cherrig gan drigolion lleol, ond dychwelasant rai dyddiau’n ddiweddarach gyda milwyr. Aeth y protestiadau yn eu blaen i mewn i’r flwyddyn 1813, pan gafodd Robert William Hughes ei ddal. Fe’i hystyriwyd ef yn arweinydd ar y protestwyr lleol, wedi iddo ddefnyddio cragen fôr fawr fel megaffon mewn protestiadau. Cludwyd ef, gyda throseddwyr eraill, i Botany Bay (sydd bellach yn rhan o Sydney), Awstralia.

Credir i’r Wal Fawr gael ei adeiladu tua 1815 gan gyn-filwyr, wedi’i ryddhau o ddyletswyddau milwrol wedi i Ryfel Waterloo ddod â blynyddoedd o frwydro â Ffrainc i ben. Rhed y wal o’r gogledd orllewin i’r de-ddwyrain, gan farcio terfyn y tir caeedig. Mae llystyfiant o fathau gwahanol ar bob ochr i’r wal, fel y gwelwch yn yr olygfa o’r awyr isod. Ger y pentref mae nifer o gaeau hirsgwar - arwyddion nodweddiadol o dir caeedig.

Mae Llwybr Gwyn Plas, er cof am yr hanesydd lleol Gwyn Elis, yn dilyn y wal ac yn pasio Cae’r Mynydd, hen gartref Robert William Hughes.

Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Map

Llwybr Gwyn Plas Trail ar-lein – map a mwy o hanes

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button