Bwlch yr Eifl, ger Trefor

Bwlch yr Eifl, ger Trefor

Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio drwy Fwlch yr Eifl. Ar ochr y môr mae un o dri chopa’r Eifl. Mae’r copa uchaf ar yr ochr arall, a thu hwnt iddo ceir olion bryngaer o’r Oes Haearn o’r enw Tre’r Ceiri.

Yr Efil yw tir uchaf Penrhyn Llŷn, ac mae’n sefyll dros 500 metr uwchben lefel y môr. Fe'i ffurfiwyd gan weithgaredd folcanig ar hyd y nam daearegol sy’n sail i arfordir gogleddol y penrhyn.

Gwnaed defnydd o’r graig galed ar gyfer adeiladu. Yn y 19eg ganrif roedd sawl chwarel ar Yr Eifl, gan gynnwys y “Gwaith Mawr” helaeth ger Trefor. Roedd y chwarel yn elwa o fod yn agos at y môr, gan mai llongau oedd y ffordd fwyaf cost-effeithiol o symud llwythi mawr o wenithfaen. 

Photo of Iron Age brooch found at Tre'r Ceiri
Gold-plated brooch from Tre'r Ceiri
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Bu i chwarel debyg ym Mhenmaenmawr, sydd ymhellach i’r dwyrain ar hyd yr arfordir, ddinistrio bryngaer helaeth, ond yn ddigon ffodus gadawyd Tre’r Ceiri heb ei gyffwrdd. Mae’r prif ragfur yn amgáu sylfeini tua 150 o gytiau crwn. Mae’r rhagfur yn parhau i fod mewn cyflwr cystal fel bod modd gweld y llwybr ar hyd y brig, a’r rampiau sy’n arwain ato. Mae dau fynediad clir a thair giât gefn fach, ac mae’n debyg bod preswylwyr wedi defnyddio un ohonynt i nôl dŵr ffynnon.

Roedd rhan o’r wal allanol yn amddiffyniad rhag ymosodiad o'r gorllewin a’r gogledd.

Mae'n debyg i'r gaer gael ei hadeiladu tua diwedd yr Oes Haearn (tua.800CC i 43AD), a pharhaodd i gael ei defnyddio tan y 4edd ganrif (sef dyddiad y crochenwaith Rhufeinig a ddarganfuwyd yno) neu’n hwyrach, hyd yn oed. Daeth archeolegwyr o hyd i lawer o wrthrychau eraill yno.

Yn eu plith mae broets aur (gweler y llun) yn dyddio o ddiwedd y ganrif 1af OC i ddechrau’r 2il ganrif OC – sef y cyfnod Rhufeinig cynnar. Mae’r goreuro ar y froets yn arddull Celf Geltaidd hwyr (a elwir weithiau’n La Tène), sy'n awgrymu bod yr arddull hon yn apelio at gymunedau o’r Oes Haearn a oedd yn byw yn y gaer yn y degawdau yn dilyn goresgyniad y Rhufeiniaid yng ngorllewin Prydain. Mae’r froets yn ymdebygu i wrthrychau a geir yn Iwerddon, sy’n awgrymu cyswllt dros y môr.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ac Amgueddfa Cymru. Hefyd i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Map

Gwefan Amgueddfa Cymru

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button