Harbwr Trefor
Harbwr Trefor
Heddiw mae harbwr Trefor yn le poblogaidd i bysgota, plymio a gweithgareddau hamdden eraill – yn wahanol iawn i’r diwydiant trwm pan grewyd yr harbwr. Adeiladwyd y morglawdd ar gyfer allforio cerrig o chwarel ar lethrau’r Eifl, i'r gorllewin. Agorwyd y chwarel gan Samuel Holland, entrepreneur o linell hir o dirfeddianwyr yng Ngogledd Cymru. Ei fwriad oedd i gyflenwi'r cyfeintiau mawr o gerrig a fyddai eu hangen ar gyfer datblygu Porthdinllaen fel y prif borthladd ar gyfer llongau fferi rhwng Cymru a Dulyn.
Methodd y cynllun harbwr, gyda ffafrio Caergybi dros Borthdinllaen. Fodd bynnag, roedd galw mawr am y graig tebyg i wenithfaen (sy'n cynnwys porphyrite a cwarts) o’r chwarel newydd. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd y chwarel a Pentre Trevor yn ffynnu. Enwyd y pentref ar ôl Trevor Jones, fforman Holland. Roedd gan y chwareli yn Nhrefor ac yn Nant Gwrtheyrn, ar ochr arall yr Eifl, y fantais o fod wrth ymyl y môr. Llongau oedd y prif ddull o gludo cargo trwm fel cerrig.
Cludwyd y cerrig mewn wagenni rheilffordd at yr harbwr yn Nhrefor, gan ddefnyddio inclein i ddisgyn yn rheoledig o’r gweithfeydd uchel. Ar ochr y môr i’r morglawdd, gellir gweld o hyd y jeti pren ar gyfer y lwytho’r cerrig i longau. Roedd glanfeydd chwarel pren tebyg unwaith yn britho arfordir Gogledd Cymru.
Daeth yr harbwr ar ochr y tir yn borthladd bysgota, gyda thwf Pentre Trevor. Mae peth pysgota masnachol yn parhau hyd heddiw.
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |