Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn

Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn

Mae’r amgueddfa yma mewn cyn eglwys ar safle a chysylltiadau a Cristnogaeth gynnar. Mwy o wybodaeth isod.

Nyfain (Nefyn), un o 24ain merch Brychan Brycheiniog rheolwr o’r 5ed ganrif sefydlodd yr eglwys. Erbyn y 12fed ganrif fe’i cysegrwyd i Santes Mair. Yn yr un ganrif rhoddodd Cadwaladr, brawd Owain Gwynedd (Brenin Gwynedd), yr eglwys i’r Urdd Sant Awstin. Codwyd priordy ar dir i’r de orllewin o’r eglwys. Daeth yn un o orsafoedd aros ar bererindod i Enlli. Clynnog Fawr oedd y prif orsaf i dros nosi ond roedd Nefyn yn ail gan fod yma westai. Ystyriwyd tair pererindod i Enlli yn gyfatebol ag un i Rhufain.

Photo of ship's figurehead in Nefyn museum

Yn Ebrill 1188 bu i Baldwin, Archesgob Caergrawnt a Gerallt Gymru aros noson yma tra’n teithio Cymru i recriwtio ar gyfer y trydydd grwsâd. Yn ôl dyddlyfr Gerallt cyrhaeddodd y criw yn Nefyn ar ôl taith hir o Llanfair ger Harlech.

Cafodd Gerallt syndod hyfryd pan ganfu gopi o ysgrifeniadau Merlin Silvester (gan gynnwys nodiadau ar hanes Prydain) a oedd wedi eu deisyfu ers amser maith. Rhoddodd Baldwin bregeth yma yn y bore ac fe ymaelododd sawl un i’r Grwsâd.

Adeiladwyd yr eglwys yma yn yr 1820au gan chwalu’r adeilad cynt. Gwelir y bedyddfaen gwreiddiol yn yr amgueddfa.

Yn Awst 1904 agorwyd yr Eglwys Dewi Sant newydd yn Nefyn ac o’r herwydd ond yn achlysurol y defnyddiwyd Santes Mair ac fe’i caewyd yn y 190au.

Agorwyd yr amgueddfa yn 1977 ond fe gafwyd problemau adeiladol a bu rhaid cau yn 2000. Cychwynnwyd ar y gwaith adferol yn 2012, gan gynnwys roi to newydd, ac fe ail-agorwyd yn 2014.

Ceir yma tua 400 eitem gan gynnwys y ffigwr blaen llong a welir uchod. Credir fod y ffigwr o’r llong Americanaidd Governor Fenner a adeiladwyd yn 1827 fel llong hela morfilod ond yna fe’i defnyddiwyd i gludo ymfudwyr i’r Unol Daliaethau. Yn anffodus hwyliodd o Caergybi am Efrog Newydd yn Chwefror 1841 a 12 awr wedyn gwrthdarwyd a stemar a chollwyd 106 yn y trallod a dim ond y capten a’r prif fêt achubwyd.

Hefyd yn yr amgueddfa mae yna gwch hir Affricanaidd mwy na thebyg ddaeth yn ôl i Lerpwl ar long olew palmwydd. Yma hefyd mae cartref Canolfan Astudiaeth Llŷn sy’n rhoi hanes yr ardal.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod poste: LL53 6LB    Gweld map lleoliad

Gwefan yr amgueddfa – am amseroedd agor, hanes a mwy

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button