Cadeirlan St Deiniol, Bangor
Cadeirlan St Deiniol, Bangor
Dyma’r gadeirlan hynaf ar ynysoedd Prydain. Fe’i sefydlwyd ar c.525AD fel clwysty (cloister) a oedd yn sefydliad rhywbeth rhwng coleg a mynachlog.
Credir fod y tir wedi ei roi i Deiniol gan Maelgwyn, brenin Gwynedd lle greodd glwysty (enclosure) gan greu ffens pren o’i hamgylch a gwiail wedi eu gweheu rhyngddynt. Enw’r pren ar ben y ffens oedd y bangor a dyna’r enw am y ffens a’r dref.
Codwyd tai bach a chelloedd yn y llan yma i’r cenhadwyr a’u teuluoedd.
Mae ‘Llan’ yn rhan annatodol o’n Cenedl gan fod yn enw cymaint o’n cymunedau. Ystyr cyntaf Llan oedd ardal wedi ei chau i mewn o fewn ffens bren neu wal gerrig. Gan fod yna gymaint o Eglwysi wedi eu cau i mewn fe ddaeth yr enw i feddwl Eglwys wedi ei amgylchynu a wal, ac yna, y plwyf yn derbyn yr enw gan ddylanwad yr Eglwys. Mae yna lawer Llan arall yn ein geirfa - e.e. Llannerch, Perllan, Corlan.
Dyma’r Gadeirlan tua 1890au. Mae rhannau o’r adeilad o’r ddeuddegfed ganrif. Un o’r rhai cyntaf i’w claddu yma oedd Owain Gwynedd a‘i fab Hywel. Lladdwyd Hywel gan ei hanner brawd ger Pentraeth Sir Fôn yn 1170.
Daeth Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint, yma yn 1188 ar eu cwrs o amgylch Cymru i ddenu milwyr i’r trydydd grwsâd. Cawsant noson ym Mangor gan lletygarwch yr archesgob Gwion.
Nodwyd i Gerallt ddathlu màs uchel yn y gadeirlan yn y bore. Erfyniodd ar i Gwion ymrestru i’r grwsâd ac fe wnaeth. Cythryblwyd aelodau o’r gynulleidfa gan hyn gan dybio y deuai’r Archesgob i ddrwg. Fe ebychwyd gan ferched a dynion yn uchel i’r perwyl hwn.
Gwnaed amryw newidiadau i’r adeilad yn arbennig yn gynnar yr unfed ganrif ar bymtheg pan ychwanegwyd corff a thŵr cloch. Ymwelodd yr hanesydd Thomas Pennant yn 1770au a ysgrifennodd i’r gadeirlan gael ei dinistrio gan y Sacsoniaid yn 1071 ac yna gan frwydwyr Owain Glyndŵr yn 1402, gan ei adael yn adfail am 90 mlynedd.
Mae’r ddarlun o’r gadeirlan isod a wnaed ar gyfer llyfrau Pennant (drwy gwrteisi Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Yn ôl Pennant adeiladwyd corff a thŵr y gadeirlan gan yr archesgob Thomas Skeffington yn 1532.
Bu farw Thomas flwyddyn wedyn yn Hampshire ond gan nodi y dylid anfon ei galon i’w dwyn o’i gorff a’i claddu oddi fewn safle delweddau o Sant Deiniol ym Mangor. O’i farw bu diwedd ar y syniad i ddwblu uchder y tŵr.
Fe wnaeth Sir George Gilbert Scott archwilio gwaith adferol tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe oruchwyliodd waith. Fe ailadeiladodd sawl nodwedd canol oesoedd .e.e. y ffenestri trawst ar ôl astudio’r gweddillio o’r gwreiddiol. Cynigiodd dŵr mwy ond doedd na ddim digon o arian.
Yn 1950au roedd na ddigon o arian am dŵr ond doedd y tir ddim digon cadarn i’w gynnal heb lawer mwy o wariant. Felly cwblhawyd stwmp y tŵr a brwydriadau iddo (cleiog a iâr), to pyrmheidal a cheiliog gwynt tal.
Yn y gadeirlan mae yna ddarlun maint llawn o’r Iesu wedi ei glymu cyn y croeshoeliad. Llun 15fed ganrif o eglwys Sant Crwys yn Llanrwst, dyffryn Conwy ydyw.
Yn hwyl i’r plant, mae yna chwech llygoden gerfiedig yn cuddio drwy’r adeilad – ewch i chwylio!
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL57 1LH Gweld Map y Lleoliad
Gweld mwy o lyft Thomas Pennant 'A Tour in Wales' – gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru