Rheilffordd Llyn Padarn
Mae'r wibdaith drên y mae miloedd o ymwelwyr yn mynd arni bob blwyddyn ar Reilffordd Llyn Padarn yn bennaf ddilyn llwybr a grëwyd ym 1843 i gludo llechi o chwarel Dinorwig i'r doc yn Y Felinheli, a elwid bryd hynny hefyd yn Bort Dinorwig, yn ystod y cyfnod o allforio llechi. Ym 1824, disodlodd y llwybr hwn ar hyd glan y llyn, y'i gelwir yn Rheilffordd Padarn, ffordd haearn bach a ddefnyddiai geffylau tan 1848 pan brynwyd dwy injan stêm. Mae un ohonynt, Fire Queen, i'w gweld yng Nghastell Penrhyn, Bangor.
Fel arfer, gosodwyd cledrau Rheilffordd Padarn 1.2m (4 troedfedd) ar wahân. Lled safonol Prydain oedd 1.4m, ond roedd cledrau chwareli llechi Cymru (gan gynnwys Dinorwig) fel arfer yn 58cm o led. Pan fyddai'r wagenni’n cyrraedd y Gilfach Ddu byddent yn orlawn o lechi gorffenedig ac fe'u rhoddid ochr yn ochr â'i gilydd ar wagenni cludo yn barod i'w cludo ar y lein fawr i'r Felinheli, lle cawsant eu trosglwyddo i gledrau 58cm o led yn yr harbwr yn barod i’w rhoi ochr yn ochr â'r cychod oedd yn eu haros. Ceir wagen gludo yn Amgueddfa Rheilffordd Gul, Tywyn. Dengys y llun y wageni yn cael eu defnyddio (drwy garedigrwydd David J Mitchell).
Defnyddiwyd system debyg, oedd yn defnyddio wageni o led gyffredin, rhwng Blaenau Ffestiniog a chei Deganwy. Roedd y system hon yn golygu llai o waith trin y llechi i'r dynion, gan leihau'r llafur a'r perygl o falu. Heddiw, mae'r un egwyddor yn sylfaen i'r trolïau a'r cynwysyddion nwyddau ar olwynion sy'n cludo bwydydd yr archfarchnadoedd, parseli a nwyddau eraill ar lorïau, awyrennau a threnau, ac oddi arnynt.
Byddai chwarelwyr Dinorwig yn mynd i'r gwaith ar hyd Rheilffordd Padarn ar yr hyn y galwai’r chwarelwyr yn "Geir Gwyllt", neu velocipedes, a gawsant eu gyrru gan y teithwyr. Ceir hanesion am y ceir gwyllt yn cyrraedd 64 cilomedr yr awr (40mya) neu yn cael eu gorlwytho. Weithiau byddai un criw o ddynion yn ceisio taro'r car gwyllt o'u blaen, a byddai'r teithwyr hynny'n ceisio osgoi cael eu taro. Ym 1895, ar ôl sawl damwain a marwolaeth, cychwynnodd y cwmni drên teithwyr i'r sawl oedd yn fodlon talu am y cludiant.
Caeodd y rheilffordd ym 1961 pan y'i disodlwyd gan gludiant ffordd. Ail-agorodd gyda chledrau 58cm o led ym mis Gorffennaf 1971 ar ôl i bobl frwdfrydig gael les ar ran o'r ffordd a phrynu offer rheilffyrdd o chwareli segur. Yn 2003 ehangwyd y rheilffordd o'r Gilfach Ddu i orsaf y dref, drwy gefnogaeth Cyngor Gwynedd.
Cod post: LL55 4TY Map
Gwefan Rheilffordd Llyn Padarn