Eglwys Llanfihangel-y-traethau, Talsarnau

Eglwys Llanfihangel-y-traethau, Talsarnau

Addaswyd yr eglwys hynafol hon yn ystod adferiadau Fictoraidd. Credir bod y prif waliau yn ganoloesol.

Mae llawer o eglwysi eraill yng Nghymru wedi'u cysegru I Sant Mihangel, fel arfer ag ôl-ddodiad i wahaniaethu rhyngddynt. Yma mae “y traethau” yn cyfeirio at ehangder tywodlyd aber Afon Dwyryd.

Saif yr eglwys ar ardal o dir uchel a adnabyddir fel Ynys Llanfihangel-y-traethau, a chanrifoedd yn ôl roedd y tir wedi'i amgylchynu gan ddŵr y môr ar lanw uchel.

Yn y fynwent mae cofeb garreg uchel, gul o'r 12fed ganrif. Mae ei arysgrif Lladin yn cofnodi ei fod yn nodi bedd gwraig o’r enw Wleder, mam i’r dyn o’r enw Hoedliw a gododd yr eglwys gyntaf yn amser “Wini Regis”. Mae hwn yn dyddio’r eglwys i deyrnasiad Owain Gwynedd, c1100-1170. Mae rhai o'r cofebau y tu mewn i'r eglwys yn dyddio o'r 17eg ganrif.

O tua 1751 ymlaen bu wardeniaid yr eglwys yma yn rheoli gwaddol o £10 oddi wrth Catherine Humphreys ar gyfer tlodion y plwyf.

Ym 1818 claddwyd yma delynor sipsi o'r enw John Abraham Wood (neu Valentine Wood). Bu’r teulu Wood yn helaeth yng Nghymru o gyfnod y Tuduriaid. Roedd rhai aelodau o'r teulu yn gerddorion nodedig. Yr oedd gan John Wood, a fu farw yn Ebrill 1818 yn 76 oed, amryw o feibion ​​a oedd hefyd yn delynorion.

Bedyddiwyd un ohonynt, John Wood Jones, yn yr eglwys hon yn 1800 a daeth yn delynor Cymreig enwocaf ei oes. Bu’n rhedeg ysgol delynorion yng Nghaerfyrddin ac yn ddiweddarach bu’n delynor i Arglwyddes Llanofer (ger Y Fenni). Roedd hi ei hun yn delynores. Roedd hi’n hyrwyddwr pwysig o arferion Cymreig gan gynnwys y delyn deires, sydd â thair rhes o dannau.

Ymhlith y ffynonellau mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cod post: LL47 6TN    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button