Tŷ cwch Llanofer

button-theme-canalTŷ cwch Llanofer

Dros y gamlas o'r llwybr halio, ychydig i'r gogledd o Bont Llanofer, saif tŷ cwch. Roedd y tŷ cwch gwreiddiol yn eiddo i Benjamin Waddington, a feddai ar Tŷ Uchaf gerllaw a'i dir o’r 1790au.

llanover_augusta_hallRoedd yn gefnwr i gamlas newydd y Brecknock & Abergavenny ac yn fuan roedd ganddo ei gwch ei hun, fel y gallai deithio ar hyd y gamlas. Ym mis Chwefror 1812, cwrddodd rheolwyr y cwmni rheoli, sef 12 dyn, ar bwys “tŷ cwch Mr Waddington”. Oddi yno, fe deithion nhw ar ei gwch i weld y gwaith a oedd newydd ei gwblhau ym Mhontymoel er mwyn cysylltu’r gamlas â Chamlas Sir Fynwy. Roedd hyn yn galluogi nwyddau i deithio mewn cwch o Aberhonddu i'r môr yng Nghasnewydd, ac i'r gwrthwyneb.

Bu farw Benjamin Waddington ym 1828 a phasiodd Ystâd Llanofer i'w ferch Augusta a'i gŵr Benjamin Hall, AS Ardal Bwrdeistrefi Mynwy ac yn ddiweddarach Marylebone (Llundain), Gosodwyd twr y cloc ym Mhalas San Steffan tra roedd yn gomisiynydd ar gyfer gwaith, ac enwyd y gloch fawr yn y twr yn “Big Ben” er anrhydedd iddo.

Comisiynodd ef ac Augusta y gwaith o adeiladu Llanover House yn y 1830au fel eu cartref ac fel canolfan ar gyfer gwarchod y Gymraeg a diwylliant Cymreig. Cafodd y tŷ ei ddymchwel ganrif yn ddiweddarach.

Picture of fisherwoman wearing Welsh costume c.1900Enillodd Augusta y llysenw “Gwenynen Gwent” am ei gwaith diflino i warchod a hyrwyddo traddodiadau Cymreig gan gynnwys eisteddfodau, chwedlau hynafol y Mabinogi a'r delyn deires. Fe adfywiodd hi arferiad teuluoedd cyfoethog o gyflogi telynor, gan ddechrau gyda'r enwog John Wood Jones. Roedd yn hanu o deulu sipsiwn cerddorol a bedyddiwyd ef ger Harlech yn 1800.

Enillodd Arglwyddes Llanofer hefyd dderbyniad eang am yr hyn yr oedd hi'n ei ystyried yn wisg genedlaethol Gymreig, a welir yn y llun ar “bysgotwraig” c.1900.

Ers hynny, mae cenedlaethau o ferched Cymru wedi gwisgo hetiau du uchel a siolau i’r ysgol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae mwy amdani ar ein tudalen am gerrig yr Eisteddfod yn y Fenni. Daw'r llun uchod ohoni o bortread a baentiwyd gan Charles Augustus Mornewick.

Mae'r elusen Glandŵr Cymru yn gofalu am ran fordwyol Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.

Gyda diolch i archif y 'Monmouthshire, Brecon and Abergavenny Canals Trust'

Gwefan Glandŵr Cymru – Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

Map

Glamorganshire canal tour button link Navigation up stream buttonNavigation downstream button