Cors Llanrhidian, Penrhyn Gwyr

Gower-AONB-FullCors Llanrhidian yw un o'r enghreifftiau gorau o forfa heli arfordirol ym Mhrydain. Mae'n ymestyn ar hyd y rhan fwyaf o arfordir gogleddol Gŵyr, mewn cyferbyniaeth â thraethau a childraethau arfordir y de. Mae ei chynefinoedd a'i rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol, ac mae'n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig a Safle Ramsar.

Gellid gweld rhywogaethau fel y gylfinir, y crëyr bach a hwyaden yr eithin ar draws y gors, yn ogystal ag adar ysglyfaethus gan gynnwys gweilch, boda tinwyn a'r cudyll bach. Yn y gaeaf, mae'r gors yn gartref i nifer fawr o adar fel pibydd y mawn, corhwyaid a phibydd yr aber; mae rhai rhywogaethau'n teithio miloedd o filltiroedd o'r Baltig, Siberia a'r Arctig. Gwelwyd hefyd y dyfrgi a llygoden y dŵr swil yma.

Tir comin yw'r gors a bu defaid yn pori yno ers cannoedd o flynyddoedd, gan fwydo ar rywogaethau megis llyrlys, suran, lafant y môr a chlustog  Fair, sy'n rhoi blas arbennig i'r cig. Ym mis Medi 1903 aeth T John o Fferm Tycoed a'i nai allan i'r gors i achub defaid yn ystod storm a achosodd ddifrod ar draws y rhanbarth. Cafwyd eu hamgylchynu gan y llanw. Fe daflodd Mr Gordon o Gastell Weble raff iddyn nhw ac fe gawson nhw eu hachub "with the greatest of difficulty". Boddodd sawl dafad.

Yn 2021, rhoddwyd Dynodiad Daearyddol y DU i Gig Oen Morfeydd Heli Gŵyr, a gynhyrchir yn Fferm Castell Weble sy'n nodi ac yn diogelu ei ddilysrwydd a'i darddiad. Hwn oedd y bwyd cyntaf i dderbyn y statws gwarchodedig wedi i gyfnod trawsnewid y DU allan o aelodaeth yr UE ddod i ben.

Mae adfeilion Castell Weble yn edrych dros y gors.

Map

Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button