Adfeilion Castell Weble, Penrhyn Gŵyr

Gower-AONB-Full button-theme-crime Tudor Rose logo with link to more information page

Adeiladwyd y maenordy Normanaidd caerog hwn yn yr oesoedd canol ar safle ar frig crib sy'n edrych dros forfa heli helaeth Llanrhidian. Dangosir y darlun gan John Henry Roberts yma drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n dangos y castell ym 1830, gyda chychod a gwartheg yn y morfa heli yn y pellter.

Credir sefydlwyd y castell gan David de la Bere ar ddechrau'r 14eg ganrif. Mae llawer o'r adeilad gwreiddiol wedi goroesi, gan gynnwys y Neuadd Fawr a'r ddau dŵr ar yr ochr ddeheuol. Mae'r gweddillion yn dangos dyluniwyd yr adeilad fel preswylfa o'r radd flaenaf.

Drawing of Weobley Castle in 1830Cymerodd y teulu de la Beres y rhagofal o ddiogelu'r adeilad, sy'n esbonio copaon y muriau a'r tŵr gwylio. Ymosodwyd ar y castell ar ddechrau'r 15fed ganrif gan luoedd arweinydd y gwrthryfel, Owain Glyndŵr.

Rhoddwyd Castell Weobley i Syr Rhys ap Thomas ar ôl iddo gefnogi Harri Tudur ym 1485 ym Mrwydr Bosworth, a arweiniodd at yr heriwr yn dod yn Frenin Harri'r VII. Er bod Syr Rhys yn byw yng Nghastell Caeriw, Sir Benfro, yn bennaf, dechreuodd ar welliannau mawr yng Nghastell Weble gan gynnwys cyntedd deulawr wrth y fynedfa i'r Neuadd Fawr. Cyflwynodd ei waith i foderneiddio'r castell arddull addurniadol newydd (a ddisgrifir heddiw fel arddull 'Tudur') i'r adeilad Normanaidd.

Bu farw Syr Rhys ym 1525 a throsglwyddwyd ei eiddo, gan gynnwys Castell Weble, i'w ŵyr Rhys ap Gruffudd. Fodd bynnag, gwrthododd Rhys droi at Brotestaniaeth a gwrthwynebodd ysgariad Brenin Harri VIII a'i briodas ag Anne Boleyn (y rheswm gadawodd Harri'r Eglwys Gatholig). Dienyddwyd Rhys am fradwriaeth ym 1531 ac atafaelwyd ei eiddo gan y Goron.

Bu’r castell yn ddiweddarach yn eiddo i deulu Mansel-Talbot o Gastell Pen-rhys. Syrthiodd yn adfeilion ond fe'i defnyddiwyd yn ystod y 18fed ganrif gan swyddogion tollau i storio pethau gwerthfawr dros dro, fel brandi a oedd wedi'i adfer ar ôl llongddrylliad neu a atafaelwyd o smyglwyr.

Heddiw rheolir y castell gan Cadw – dilynwch y ddolen isod i gael manylion am ymweld.

Diolch i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am y troednodiadau

Cod post: SA3 1HB    Map

Castell Weble – gwefan Cadw

Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

Troednodiadau: Am enw'r lle

Recordiwyd Weobley am y tro cyntaf fel Webbelegha ym 1306 ac fel Webley ym 1318. Credir mai ystyr yr enw yw 'llannerch (Hen Saesneg lēah) (dyn o'r enw) Webba'. Yr ynganiad Saesneg lleol yw 'Wibli'.

Mae Weobley (gydag 'o' distaw) yn ymddangos gyntaf mewn tystiolaeth hanesyddol oddeutu 1600 ond nid yw'n dod yn ffurf sefydledig tan y 19eg ganrif. Mae'n debyg dylanwadwyd ar y sillafu gan Weobley, yn Swydd Henffordd, sy'n cynnwys enw personol gwahanol (Wiobba).

Nodir y ffurf Gymraeg fel Weble mewn catalogau modern ond mae tystiolaeth gynnar yn ffafrio Gwible neu Gweble. Yn aml mae enwau Saesneg a geiriau sy'n dechrau gydag 'w' yn newid i 'gw' wrth gael eu benthyca gan y Gymraeg fel eu bod yn cydymffurfio â threigladau Cymraeg.