Stryd Lombard, Porthmadog
Stryd Lombard, Porthmadog
Dyma adlewyrchiad o ffyniant Porthmadog yn ei hanterth yn y diwydiant llechi. Mae’n efelychu enw’r stryd yn ardal Dinas Llundain lle cafwyd pencadlys banciau mawr am ganrifoedd. Yn debyg cafodd y Stryd Lombard yn Llundain ei henwi ar ôl ardal Lombardia (sydd nawr yn yr Eidal) gan roi tir yno (yn Llundain) i ofaintiau aur o Lombardia yn 1318, sef rhagredegyddion y banciau mawr. Er, mae 'na sawl banc a gychwynnwyd yng Nghymru wedi dod i’r brig e.e. Lloyds (banc y march du).
Ar ei phen gogleddol fe gyfarfu’r stryd a Bank Place. Y Capten Richard Prichard oedd un o’r cyntaf i gychwyn banc yn y dref. Bu’n hwylio’r Iwerydd efo llechi ac ymfudwyr am 15 mlynedd i UDA. Sefydlodd yma yn 1835 gan fuddsoddi mewn sawl busnes yn llwyddiant y dref.
Pan yn 72 fe’i cymhellwyd i fynd i Awstralia eto. Cewch y stori ar ein tudalen am Dafarn yr Australia.
Y diwydiant llechi fu’n gyfrifol bennaf am lwyddiant y dref. Sefydlodd Samuel Holland, sefydlydd chwarelyddiaeth yn y fro, fanc cadw yma yn 1845. Y fo hefyd ddaeth a'r syniad o reilffordd o Ffestiniog i gludo llechi yma i’r porthladd newydd.
Yn 1840 agorodd y ‘North and South Wales Bank’ gangen yma. Ond ar ôl argyfwng ariannol 1847-48 cymerwyd y gangen trosodd gan ddiwydianwyr a diddordeb yn y diwydiant llechi. Yn eu plyg roedd gwyr o Swydd Caerhirfryn sef William Turner a William Casson.
Bu i Turner fod yn lwcus iawn gan i wythïen Ddiffwys (precipice) ym Mlaenau Ffestiniog gychwyn cynhyrchu llechi o safon uchel.
Os rydych newydd sganio’r còd ar gyrion y parc, ceisiwch ddychmygu’r parc pan roedd rhaffau morwrol yn cael eu gwneud yma ar gyfer y llongau. Tros y ffordd mae’r neuadd Fesonic yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda ffortico Eidalaidd. O edrych yn amlwg ar y rheilen fe welwch sgwariau a chwmpas mesur, sef symbolau’r Sieri Rhyddion.
Còd Post: LL49 9AP Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |