Cofeb William Madocks, Porthmadog
Mae'r gofeb hon, ger mynedfa'r Stryd Fawr i'r parc, yn coffau William Madocks AS, ymgyrchydd democratiaeth (gweler isod) a sylfaenydd Porthmadog. Dangosir ei bortread yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ganed ef yn Llundain yn 1773. Roedd ei dad John yn gyfreithiwr gyda gwreiddiau teuluol canoloesol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd John wedi etifeddu Llay Hall, i'r gogledd o Wrecsam, oddi wrth ei dad, gwerthwr tybaco llwyddiannus yn Rhuthun.
Astudiodd William yn Ysgol Charterhouse a Choleg Crist, Rhydychen. Cymharol fychan oedd ei etifeddiaeth ar ôl marwolaeth John, gan fod ganddo ddau frawd hŷn. Prynodd Ddolmelynllyn, ger Dolgellau, ond yn fuan trodd ei sylw tua'r Traeth Mawr, yr ehangder tywodlyd wrth aber y Glaslyn. Prynodd dir cyfagos er mwyn iddo fedru draenio Traeth Mawr i greu tir amaethyddol gwerthfawr.
Ei brosiect cyntaf oedd pentref enghreifftiol Tremadog, a alluogwyd gan adeiladu arglawdd a sianel ddraenio. Prynodd Tan-yr-Allt, bwthyn cyfagos, a'i helaethu, gyda ffenestri newydd yn wynebu'r olygfa dros Draeth Mawr a'r pentref newydd. Darparodd gyflogaeth drwy adeiladu cyfadeilad tecstilau, gan gynnwys ffatri pum-llawr.
Yn 1802 etholwyd ef yn AS dros Boston yn Swydd Lincoln, sir sydd â hanes hir o ddraenio tir. Penderfynodd adeiladu arglawdd 1.5km, sy'n gyfarwydd i ni fel Cob Porthmadog. Gadawodd ei asiant tir ffyddlon John Williams i oruchwylio’r prosiect, a oedd yn fwy heriol na’r disgwyl. Defnyddiodd William amrywiol dactegau i atal ei gredydwyr, ac ni allai gael ei garcharu am ddyled oherwydd ei fod yn AS.
Gorffennwyd y Cob ym 1811. Achosodd atgyweiriadau, ar ôl i'r môr dorri trwodd yn 1812, anawsterau ariannol pellach. Gwellodd sefyllfa ariannol William o’r diwedd yn 1818, pan briododd ag Eliza Anne Hughes, aeres o Drefeca, Powys.
Naddodd y Glaslyn sianel ddofn lle'r oedd wedi'i dargyfeirio i'r gorllewin o'r Cob, a chododd William waliau harbwr wrth ochr y sianel Newydd yn y 1820au. Bu farw ym Mharis yn 1828, cyn i'r rheilffordd yr oedd am ddod â llechi i'r harbwr ddwyn ffrwyth ar ffurf Rheilffordd Ffestiniog. Tyfodd tref Port Madoc (Porthmadog erbyn hyn) wrth i'r fasnach lechi dyfu.
Fel AS Radical ifanc, helpodd William i ymgyrchu dros ddiwygiadau Seneddol gan gynnwys diddymu “bwrdeistrefi pwdr” (rotten boroughs). Etholaethau tenau eu poblogaeth oedd y rhain (llai na 50 o bleidleiswyr mewn llawer o achosion) a roddodd ddylanwad i uchelwyr a'r Goron dros lywodraeth; roedd yn rhaid i ASau mewn seddi o'r fath bleidleisio yn Nhŷ'r Cyffredin yn ôl gorchymyn eu noddwyr. Anogodd William hefyd ddiddymu’r dreth ar lo a gludwyd ar y môr (ond nid dros dir), a oedd yn annheg i gymunedau a oedd yn dibynnu ar longau a chychod arfordirol..
Ymhlith y ffynonellau mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a ‘Madocks & the Wonder of Wales’ gan Elisabeth Beazley, Faber & Faber, 1967
Cod post: LL49 9LR Map