Cloc y Dref, Machynlleth
Cloc y Dref, Machynlleth
Tirnod canol tref Machynlleth yw’r cloc yma. Fe’i adeiladwyd gan drigolion y dref i ddathlu dyfod i oed mab hynaf Pumed Marcwis Londonderry, oedd yn byw yn Y Plas. Cafodd Charles Stewart Vane-Tempest (Is-iarll Castlereagh) ei ben-blwydd yn 21 oed ar 16 Gorffennaf 1873, ond oherwydd profedigaeth yn y teulu, bu’n rhaid gohirio’r dathliadau. Blwyddyn yn ddiweddarach, ar 16 Gorffennaf 1874, gosodwyd sylfaen y cloc, yng nghanol dathliadau mawr.
Trwy danysgrifiadau cyhoeddus, codwyd digon o arian i adeiladu tŵr y cloc a phlannu coed ddwy ochr i Strydoedd Pentrerhedyn a Maengwyn.
Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio tŵr y cloc, a denodd rhyw 30 - 40 o gystadleuwyr. Yr enillydd oedd y pensaer Henry Kennedy, o Fangor. Edward Edwards, adeiladwr lleol, adeiladodd ei gynllun. Meini o Dremadog ger Porthmadog yn bennaf a ddefnyddiwyd i’w adeiladu, ar y cyd â thywodfaen coch o Mansfield, Swydd Nottingham. Mae’r tŵr yn 24 metr o uchder, hyd at waelod ceiliog y gwynt.
Ym 1881, torrwyd dwy o wynebau’r cloc mewn storom, gan atal y mecanwaith. Casglwyd arian i’w atgyweirio gan drigolion lleol.
Datblygodd tŵr y gloch yn fan cyfarfod ar gyfer ymgyrchwyr dirwest (gwrth-feddwdod). Ymgasglodd cannoedd o bobl ger y tŵr ym 1907 i gyfarch y Cadfridog William Booth, sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth; arhosodd yno am bum munud ar ei ffordd i Aberystwyth.
Cynhaliwyd carnifal ym Machynlleth i ddathlu heddwch ar ddydd Sadwrn yng Ngorffennaf 1919. Gosodwyd torch llawryf a blodau wrth gloc y dref er cof am y sawl fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Y diwrnod wedyn, cynhaliwyd gwasanaeth coffa awyr agored wrth y cloc. Anerchwyd y dorf gan weinidogion lleol, a bu band pres y dref yn canu cerddoriaeth briodol.
Roedd tŵr y cloc yn gartref i neuadd y dref mewn dyddiau cynt, a daeth y llenor George Borrow i ymweld â’r dref ym 1854. Cofnododd ei daith i Gymru mewn llyfr poblogaidd, gyda’r teitl Wild Wales. Yn ôl disgrifiad Borrow, roedd neuadd y dref yn “old-fashioned-looking edifice supported on pillars”, yng nghanol “a kind of market place”. Dywedodd: “Seeing a crowd standing round it, I asked what was the matter and was told that the magistrates were sitting in the town hall above, and that a grand poaching case was about to be tried.” Yn ôl hanes Borrow cafwydd yr amddiffynnydd yn euog o ddal eog, a chafodd ddirwy o £4, gan gynnwys costau.
Gyda diolch i David Wyn Davies, awdur 'Machynlleth Town Trail'
Cod post: SY20 8AG Map
I barhau ar y daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf ym Machynlleth, cerddwch tua’r gogledd ar hyd y brif ffordd. Mae’r lleoliad nesaf ar eich chwith, dau ddrws wedi croesi Poplar Road |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |