Siop deuluol nyrs y Rhyfel, Machynlleth

PWMP logobutton-theme-womenSiop deuluol nyrs y Rhyfel, 19 Heol Penrallt, Machynlleth

Adeiladwyd yr adeilad hwn, cartref siop hen bethau Charlie bellach, ym 1898 fel siop a chartref i deulu John Morgan Breese a Margaret ei wraig.  Anrhydeddwyd eu merch  Annie am ei gwaith fel nyrs yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu’n gwasanaethu eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wrth edrych i fyny, fe welwch ei bryflythrennau yn y briciau. Groser oedd, yn ogystal â gwerthu te a chynghorydd; roedd hefyd yn gadeirydd llywodraethwyr yr Ysgol Sirol. Bu’n gwasanaethu ar dribiwnlys milwrol yr ardal yn sgil cyflwyno gorfodaeth filwrol yn Ionawr 1916. Roedd y tribiwnlys yn gyfrifol am y dasg anodd o benderfynu a ddylid gorfodi dynion oedd yn apelio yn erbyn gorfodaeth filwrol i ymuno â’r lluoedd arfog.

Roedd John wedi dadlau dros esgusodi Willie ei fab, oherwydd ei fod yn helpu gyda busnes pobi’r teulu. Fodd bynnag, yn ôl cynrychiolydd milwrol y tribiwnlys, nid oedd hyn yn rheswm digon da, a thynnwyd yn ôl eithriad Willie gan y tribiwnlys. Bu’n gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cymreig.  Bu’n wael, gan dreulio cyfnod yn yr ysbyty ym misoedd olaf 1916, ond llwyddodd i oroesi’r rhyfel.

Gwirfoddolodd Annie Breese, nyrs cymwys ym mis Awst 1914, mis ar ôl cychwyn y rhyfel. I gychwyn, roedd yn un o 20 nyrs ar long ysbyty Asturias, oedd yn gyfrifol am symud dynion a anafwyd o Ffrainc. Erbyn Tachwedd 1914, roedd wedi teithio nôl a mlaen dros y Sianel un ar ddeg o weithiau. Bob tro byddai’r llong yn cyrraedd un o borthladdoedd Ffrainc, byddai’r dorf yn gweiddi: “Vive l’Angleterre!” (Roedd lluoedd Prydain yn helpu’r Ffrancod i gadw’r Almaenwyr draw o orllewin Ffrainc.)

Ym 1915 teithiodd Annie i’r Dardanelles, lle'r oedd nifer fawr o filwyr y Cynghreiriaid wedi cael eu hanafu wrth geisio gwthio i wlad Twrci. Derbyniodd Medal frenhinol y Groes Goch ym 1916 a soniwyd amdani mewn adroddiadau ym 1918.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd yn ei 50au, ond bu’n gwasanaethu fel nyrs am ryw flwyddyn, cyn cyfaddef nad oedd yn gallu ymdopi â’r gwaith oherwydd ei hoedran.  Bu farw ym 1969.

Diolch i Rab Jones. Ffynonellau’n cynnwys ‘Machynlleth and the First World War’, gan David Wyn Davies a Richard Knight Williams

Cod post: SY20 8DT    Map

I barhau ar y daith ar thema’r Rhyfel Byd Gyntaf o gwmpas Machynlleth, cerddwch tua’r gogledd am ychydig, wedyn trowch i’r chwith tuag at Eglwys Sant Pedr
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button