Eglwys Sant Pedr, Machynlleth

PWMP logoEglwys Sant Pedr, Machynlleth

Mae’n bosib fod traddodiad addoli Cristnogol yn dyddio nôl i’r 6ed ganrif, pan dybir i Gybi Sant sefydlu eglwys gerllaw gorlifdir afon Dyfi.  Mae siâp crwn ffin y fynwent yn nodweddiadol o sefydliadau Cristnogol cynnar.

Mewn dogfen o’r flwyddyn 1254, mae sôn am yr eglwys fel Ecclesia de Machenleyd. Mae rhan fwyaf yr adeilad presennol yn dyddio o 1827. Mae’r tŵr yn hŷn; cafodd ei adeiladu yn y 15fed a’r 18fed ganrif, gydag 8 o glychau; bwriwyd tri ohonynt ym 1745 ac maent yn cofnodi enwau wardeniaid yr eglwys a’r rheithor. Ar y clychau o gyfnod Fictoria, ceir negeseuon yn Gymraeg megis "Deuwch Addolwn". Ychwanegwyd dwy gloch ym 1911 i ddathlu coroni’r Brenin Siôr V a’r Frenhines Mair, ddaeth i ymweld â’r Plas ym Machynlleth y flwyddyn honno.

Roedd y gwaith ailwampio ar yr eglwys yn y 1890au wedi cynnwys gosod llawr marmor. Mae’r bedyddfaen yn dyddio o’r 15fed ganrif.

Mae cofeb marmor yn yr eglwys ar gyfer wyth o aelodau’r Cynulliad fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac un a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd. Mae man gorffwys y Preifat John Watkin Lewis mewn bedd yn y fynwent; bu’n rhaid iddo adael Cyffinwyr De Cymru ym 1917 oherwydd ei anafiadau, ond ni wellodd o’i anafiadau.  Bu farw yn Ionawr 1920, yn 34 oed.

Ym mis Tachwedd 1918, daeth milwyr a anafwyd yn y rhyfel o ysbyty’r Groes Goch yn y dref i Eglwys Sant Pedr am wasanaeth i ddiolch am ddiwedd y rhyfel yn ddiweddar. Bu gweinidogion tri chapel anghydffurfiol yn cymryd rhan yn y gwasanaeth, ochr yn ochr â’r rheithor. Roedd cynghorwyr y dref yn eistedd gyda’r Arglwydd Herbert Vane-Tempest mewn seddi a gedwir ar gyfer ei deulu fel arfer.

Cod post: SY20 8AG    Map
 

I barhau â’r daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf yn nhref Machynlleth, ewch o’r fynwent, a chroeswch y brif ffordd. Trowch i’r chwith wrth y brif ffordd, ac ewch ymlaen at yr orsaf trenau, ar y dde
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button