Oriel Gelf MOMA Cymru, Machynlleth

Oriel Gelf MOMA Cymru, Heol Penrallt, Machynlleth

machynlleth_capel_tabernacl

Cyn capel a siop groser yw’r adeilad sydd bellach yn gartref i amgueddfa celf gyfoes Machynlleth. Adeiladwyd Capel y Tabernacl ar gyfer y Methodistiaid ym 1806, a chafodd ei ehangu ym 1843 a’i ail-adeiladu ym 1880 gyda phortico Clasurol. Dengys y llun ar y dde, diolch i Peter G Dobson amdano, tu blaen y capel cyn y gwaith arno yn ystod y 1990au.

Mae Rhestr Anrhydeddau yn yr awditoriwm  sy’n rhestru aelodau’r capel fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (gweler isod ar y chwith, diolch i Ffotograffiaeth Robert Price). Mae nodau penodol yn dynodi’r rhai a fu farw: Thomas Owen Davies, Edward Burton Humphreys, Rowland Jones, William Lloyd, John Ellis Roberts, Alfred Robinson a David Rowland Williams – gweler tudalen Cofeb Rhyfel Machynlleth am fanylion.

Gerllaw mae cofeb sy’n rhestru 10 aelod o gylch Methodistaidd yr ardal fu farw yn y rhyfel, gan gynnwys dynion o Gorris, Pennal a Chommins Coch. Rhoddwyd “crud coffa” i Gartref a Chartref Plant Amddifad Cenedlaethol er cof amdanynt.

machynlleth_tabernacl_roll_of_honourYm 1986 daeth y capel yn ganolfan ar gyfer celfyddydau perfformio, dan ofal Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth. Llwyddodd yr ymddiriedolaeth i brynu’r hen siop drws nesaf, Tŷ Harvey, a’i ail-enwi’n Adeilad Ellis ar ôl Tom Ellis (1859-1899). Roedd yn AS Meirionnydd, a dadleuodd y dylai capeli fod yn ganolfannau diwylliant, yn hytrach na chyfyngu eu defnydd i addoli ar y Sul. Cafodd Adeilad Ellis ei drawsnewid yn oriel gelf, a chynhaliwyd y sioe gyntaf ynddo ym mis Mai 1992.

Ym 1994, agorwyd adeilad newydd, a ddyluniwyd gan David Thomas, oedd yn cysylltu’r holl gyfleusterau ar y safle. Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cyllid y Sefydliad Chwaraeon a’r Celfyddydau, Cronfa Mentrau Gwledig y Swyddfa Gymreig, a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, ac mae’n cynnwys cyfleusterau newydd megis stiwdio recordio. Yr enw a ddewiswyd oedd Adeilad Owen Owen. Ers hynny gwnaethpwyd gwelliannau eraill i’r adeilad.

Mae MOMA Cymru’n arddangos gweithiau celf gyfoes o Gymru. Daw rhai o’r eitemau o gasgliad Ymddiriedolaeth y Tabernacl. Defnyddir yr awditoriwm, gyda 350 o seddi, ar gyfer digwyddiadau a pherfformiadau, a dyma ganolbwynt Gŵyl flynyddol Machynlleth. Cefnogir MOMA Cymru gan Gyfeillion y Tabernacl.

Cod post: SY20 8AJ    Map

Gwefan MOMA Cymru

I barhau â’r daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy Fachynlleth, cerddwch tua’r de ar hyd y brif ffordd nes cyrraedd y siopau ar y chwith ar ôl y capel
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button