Safle Gwaith Rovi, ‘Y Consuriwr Cymreig’, Caernarfon
Yn yr adeilad hwn y bu Ifor Parry – a elwid yn ‘Rovi y Consuriwr Cymreig’ – yn gweithio fel argraffydd. Aeth ei driciau hud â chardiau ag ef o amgylch y byd, gan alluogi pobl o lawer o genhedloedd i brofi ei frand unigryw o adloniant.
Ganed Ifor yn 1919 yng nghartref y teulu: 7 Stryd Thomas, Caernarfon. Yn 15 oed, dechreuodd ei brentisiaeth gyda’r Caernarfon and Denbigh Herald – cliciwch yma i ddarllen am hanes y papur newydd ar y safle hwn. Arhosodd gyda'r Herald ar hyd ei oes waith, gan adael dim ond i wasanaethu yn y Corfflu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y rhyfel, roedd yn aml yn diddanu ei gyd-filwyr gyda triciau cardiau.
Tra'n gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon cyfarfu â'i wraig, Minnie. Ymsefydlodd y ddau yng Nghaernarfon ar ddiwedd y rhyfel. Minnie a greodd ei enw llwyfan trwy wrthdroi ei enw (ROVI mewn sillafiad Saesneg). Ym 1984 ef oedd Llywydd ac Arglwyddes Cylch Prydain Brawdoliaeth Ryngwladol y Dewiniaid.
Yn yr un flwyddyn, Rovi oedd y consuriwr Cymreig cyntaf i dderbyn i Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol, un o anrhydeddau uchaf Cymru. Ei enw barddol yng Ngorsedd y Beirdd oedd ROFI.
Bu'n Llywydd Oes Anrhydeddus Cylch Hud Gogledd Cymru ac yn aelod Seren Aur o'r Cylch Hud Mewnol. Gwnaeth y dewin ac actor Americanaidd Channing Pollock ei enwi yn gyhoeddus fel ‘The King of Cards’ yn The Magic Circle.
Bu farw Rovi ym 1996. Fe'i cofir yn annwyl gan ddewiniaid a phobl leol fel ei gilydd am ei hiwmor, ei swyn a'i garedigrwydd. Bob blwyddyn dyfernir Tlws Rovi am y tric cerdyn gorau yng Nghonfensiwn Cylch Prydain IBM.
Gyda diolch i Hilary Jones, ac i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 1SE Map