Sgwâr y Farchnad, Talgarth

PWMP logoSgwâr y Farchnad, Talgarth

talgarth_market_square

Yn draddodiadol, Sgwâr y Farchnad oedd craidd cymdeithasol a masnachol Talgarth. Dyma oedd lleoliad y seliau da byw ar ddiwrnodau ffair (llun ar y dde) a chyfarfodydd cyhoeddus. Wrth i’r Diwygiad Methodistaidd sgubo ar draws Cymru ym 1904, byddai myfyrwyr o goleg diwinyddol Trefeca yn cynnal cyfarfodydd gweddi yn y sgwâr.

Byddai Methodist ifanc o’r enw Rhys Thomas Prydderch yn aml yn cynnal gwasanaethau awyr agored yn Sgwâr y Farchnad. Deuai o Lower Geuffordd, Talgarth. Roedd yn adnabyddus am ei ymweliadau â phobl sâl a’r henoed yn Nhalgarth a Bronllys. Roedd wedi astudio yn y brifysgol yng Nghaerdydd ac yng ngholeg diwinyddol Caerfyrddin cyn dod yn fugail, yn Abertawe ar y dechrau ac yn nes ymlaen yn y Gelli a Clifford.

Pan gychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ceisiodd listio ond fe’i gwrthodwyd oherwydd roedd wedi dioddef anaf i’w goes pan oedd yn fachgen. Ar ôl pedwar ymgais, fe’i derbyniwyd yn y pen draw i un o fataliynau llafur y fyddin. Ym mis Mawrth 1917, ryw wythnos neu ddwy ar ôl cyrraedd Ffrynt y Gorllewin, bu farw Preifat Prydderch mewn ysbyty milwrol yn Ffrainc yn 34 oed.

Yn ystod y rhyfel, byddai stondinau marchnad yn y sgwâr yn codi arian i’r Groes Goch oedd yn trin dynion clwyfedig o’r lluoedd arfog. Er enghraifft, ym mis Hydref 1915, cododd dofednod a chynnyrch a gyfrannwyd gan ffermwyr lleol bron i £16 a nwyddau a roddwyd gan fasnachwyr Talgarth bron i £13. Dyma ran o ymdrech ehangach gan Dalgarth a gododd gyfanswm o bron i £63 – tua £6,000 y dyddiau hyn.

Ym 1916, anerchwyd cyfarfod yn y sgwâr gan Miss Garland o Fwrdd Amaeth y Llywodraeth i annog menywod i helpu ar ffermydd lle’r oedd prinder llafur. Ymhlith y tasgau a ystyrid yn addas i fenywod roedd codi cerrig, godro a bwydo da byw.

Cod post: LD3 0BW    Map

Talgarth war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button