Gwesty’r Tŵr, Talgarth

PWMP logoGwesty’r Tŵr, Talgarth

talgarth_plough_and_harrow

Disodlwyd hen dafarn o’r enw’r Plough and Harrow gan y gwesty hwn o oes Fictoria. Lladdwyd un o feibion y lletywraig yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Ym 1886 ducpwyd tafarnwr y Plough and Harrow gerbron y llys gan yr heddlu am agor y dafarn y tu allan i oriau, ond gwrthodwyd yr achos. Ddwy flynedd ynghynt bu’n rhaid i’r dafarnwraig, Margaret Jones, dalu mwy nag 19s (dirwy ynghyd â chostau) oherwydd bod y dafarn yn agored am 10.25yh ar noson ym mis Awst. Fe welwch y Plough and Harrow yn y pellter yn yr hen lun ar y dde.

Enwyd Gwesty’r Tŵr ar ôl y tŷ tŵr canoloesol a saif ym mhen draw Sgwâr y Farchnad. Ym 1894, hysbysebodd y perchennog am denantiaid gan ddweud bod y gwesty wedi cael ei ailadeiladu’n gyfan gwbl yn ddiweddar. Roedd y gwesty’n cynnwys 11 o lofftydd, bragdy, coetsiws, stablau a ffald ddefaid i’r de o’r adeilad ar gyfer diwrnodau ffair (dengys y llun isod y gwesty ar ddiwrnod ffair). Roedd yr un denantiaeth yn cynnwys Tower Farm ger y gwesty. Roedd gan y gwesteion hawliau pysgota unigryw ar ddwy afon leol a’r hawl i ddefnyddio cwch a thŷ cychod ar Lyn Syfaddan.

talgarth_tower_hotel_market_square

Erbyn 1899, y tenantiaid oedd John Jones Powell a’i wraig Sarah. Roedd ganddynt saith mab a thair merch. Ganed John ym mhentre Maesyfed a daeth yn fragwr (gan gynhyrchu brag o rawn i wneud cwrw) yng Ngwesty’r Ashburnham yn Nhalgarth. Roedd yn gynghorydd plwyf yn Nhalgarth ac yn gyn-farchfilwr. Daliodd ei wraig ymlaen fel y tenant ar ôl ei farwolaeth yn 63 oed yn 1914.

Bu pedwar o feibion y pâr, Leslie, Thomas, Rowland a Bernard, yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn y rhyfel. Gadawodd Bernard, yr ifancaf, ei swydd fel clerc banc yng Nghasnewydd i ymuno â Chyffinwyr De Cymru. Fe’i dyrchafwyd yn Is-lefftenant ym 1916 ond cafodd ei glwyfo gan saethwr cudd wrth symud tuag at linellau’r gelyn yn ardal y Somme yn Ffrainc ar 4 Medi 1917. Bu farw ychydig oriau’n ddiweddarach yn 23 oed.

Byddai arwerthiannau a digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y gwesty – rhai cysylltiedig â ffermio’n aml. Ym 1915, cyfarfu cangen leol Undeb y Ffermwyr yma gan benderfynu codi arian i’r Groes Goch oedd yn darparu cymorth meddygol ar y ffrynt.

Code postal : LD3 0BW    Map

Gwefan Gwesty’r Tŵr

Talgarth war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button