Ystafell band Nantlle, Talysarn

Adeiladwyd yr ystafell band hon yn bwrpasol ar gyfer Band Arian Dyffryn Nantlle, a ffurfiwyd gan chwarelwyr llechi yn y 1860au. 

Ychwanegodd y band "Royal" i'w deitl ar ôl perfformio i Dywysog a Thywysoges Cymru wrth iddyn nhw fynd ar eu cwch hwylio ym Mhorth yr Aur, Caernarfon, ym mis Gorffennaf 1894. Roedd y cerddorion ar long arall wedi angori yno. Yn ôl y sôn, roedd y dywysoges yn cydnabod chwarae cain y "band bach o chwarelwyr cadarn". 

Perfformiodd y band mewn cyngherddau a digwyddiadau eraill yn Nyffryn Nantlle a'r rhanbarth ehangach. Mae wedi ennill gwobrau mewn nifer o gystadlaethau. 

Ym 1888, archebodd Jules Riviere, y band i chwarae gorymdeithiau yn un o'i gyngherddau ym Mhafiliwn Pier Llandudno. Yn ystod y perfformiad chwalodd platfform dros dro a plymiodd 20 o 25 chwaraewr y band dri metr (10tr) i'r llawr. Ni chafodd neb eu hanafu ond cafodd 15 offeryn eu difrodi, rhai fel yn ddi-chwarae. Ar ôl oedi wrth i'r cerddorion ail-grwpio, chwaraeodd y band y gorymdeithiau i gynulleidfa werthfawrogol. 

Yn 1910 roedd ymgyrch i gyflenwi offerynnau newydd i'r band, gan y dywedwyd bod yr hen offerynnau yn atal y cerddorion talentog rhag ennill cystadlaethau. 

Ym mis Mawrth 1915 aeth y band gyda thua 50 o filwyr o Llandudno wrth iddynt fynd i wasanaeth Sul yng Nghapel Hyfrydle, Talysarn. Roedd y milwyr yn gwersylla yn yr ardal i geisio perswadio mwy o ddynion lleol i ymuno â'r lluoedd arfog yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Ymrestrodd Zachariah Jones, mab arweinydd band Benjamin Jones, yn ddiweddarach y flwyddyn honno a gwasanaethodd fel Preifat yn y Royal Garrison Artillery. Ym mis Medi 1916 bu farw yn yr ysbyty yn Winchester ar ôl cael llawdriniaeth. Roedd yn 20 mlwydd oed ac mae wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Llanllyfni. 

Erbyn heddiw mae'r band yn parhau i ymarfer yma. 

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL54 6AB    Gweld Map Lleoliad