Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Cafodd yr adeilad hwn ei adeiladu i fod yn neuadd y dref (yn lle'r hen neuadd y dref gerllaw) ac i fod yn fan adloniant ar ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd agoriad yr adeilad newydd ym Mai 1902 yn digwydd yr un pryd ag eisteddfod gerddorol mewn awditoriwm mawr lle gallai 3,000 eistedd. Costiodd yr adeilad £12,500 i Gyngor y Dref.
Ym 1904, bu dadl danbaid yn y Cyngor Tref wedi i gwmni cerddorol wneud cais i gynnal cyngherddau yn y neuadd ar nosweithiau Sul. Roedd rhai cynghorwyr o'r farn fod hyn yn anaddas ar y Saboth am mai amcan y cwmni oedd gwneud elw. Dywedodd un cynghorydd y gallai'r caneuon fod yn dderbyniol ond o bosibl na fyddai cymeriadau'r cantorion. Cafodd y cais ei gymeradwyo drwy fwyafrif o un.
Dechreuodd y Neuadd ddangos ffilmiau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1918, roedd llywodraethwyr yr ysgol leol yn bryderus ar gyfrif y plant oedd yn cam-ymddwyn, a gofynasant i Gyngor y Dref sicrhau na fyddai neb o dan 14 oed yn cael gwylio'r lluniau symudol. Gofynasant hefyd i'r Cyngor fod yn fwy gofalus wrth ddewis pa ffilmiau i'w dangos yn Neuadd y Dref.
Ym Medi 1914, cynhaliwyd cyfarfod yma i gymell dynion lleol i ymuno â'r lluoedd arfog. Ymhlith y rhai a fu'n annerch yr oedd Margaret Lloyd George, yr oedd ei phriod ar y pryd yn AS lleol ac yn Ganghellor y Trysorlys. Ymunodd pump o ddynion â'r lluoedd yn y cyfarfod.
Yn Hydref 1919, roedd cryn frwdfrydedd yma wrth i Margaret Jones – enw llwyfan Leila Megáne – ganu yma. Hwn oedd ei pherfformiad cyntaf ym Mhwllheli oddi ar ei thaith o gylch tai opera'r Cyfandir. Roedd hi hefyd wedi canu i'r milwyr yn Ffrainc yn ystod y rhyfel. Wedi ei geni ym Methesda ym 1891, cafodd ei magu ym Mhwllheli oddi ar ei bod yn dair oed.
Heddiw mae'r Neuadd yn cael ei hadnabod fel Neuadd Dwyfor ac mae'n darparu amrywiaeth o adloniant, yn cynnwys dangos ffilmiau modern a chlasurol, cerddoriaeth a dramâu gan y Cwmni Theatr Cenedlaethol. Yn y fynedfa gellir gweld un o daflunyddion Thompson Houston a ddefnyddid yn y Neuadd ym 1949. Cafodd ei newid ym 1990.
Diolch i’r Parch Ioan W Gruffydd am y cyfieithiad
Cod post: LL53 5DE Map
Gwefan Neuadd Dwyfor (Facebook)