Gatiau coffa'r Drenewydd, Lôn Gefn, Y Drenewydd

PWMP logoGatiau coffa'r Drenewydd, Lôn Gefn, Y Drenewydd

Codwyd y gatiau hyn ym 1953 i goffáu'r dynion a'r merched lleol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. I gael manylion am y bobl leol a fu farw yn y rhyfel, cliciwch yma i weld ein gwybodaeth am gofadail y Drenewydd.

Dechreuodd y gwaith o godi arian ar gyfer cofeb newydd wrth i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben. Ar ôl blynyddoedd o ddadlau, penderfynwyd codi gatiau parc newydd a bandstand pren yn y parc. Fe wnaeth y bandstand ddirywio maes o law a chafodd ei ddymchwel yn yr 1980au.

Cafodd y gatiau coffa eu hadnewyddu a'u hailgysegru yn 2000.

I nodi canmlwyddiant cadoediad 1918, prynodd Cyngor Tref y Drenewydd ddwy fainc goffa gan David Ogilvie Engineering sy'n cynnwys delweddau o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd yn 2018, adnewyddwyd y gatiau gyda chymorth Prosiect Cofebion Rhyfel Powys.

Dewisodd cyngor y dref beintio'r pabi ar y meinciau mewn gwahanol liwiau i goffáu'r canlynol:

Coch: Y bobl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a brwydrau  diweddarach

Gwyn: Y rhai a fu farw mewn brwydrau wrth bwysleisio'r ymrwymiad parhaol i heddwch

Du: Y cymunedau Affricanaidd, Du a Charibïaidd a gyfrannodd at ymdrech y rhyfel

Porffor: Anifeiliaid a ddioddefodd mewn rhyfeloedd.

 

Cod post: SY16 2NP    Map

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch ar draws y parc i Oriel Davies (wedi'i arwyddo fel 'Oriel Gelf')
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button