Hen Neuadd a Llys y Sir, Caernarfon

slate-plaque
button-theme-crime

Hen Neuadd a Llys y Sir, Caernarfon

Photo of frontage of Caernarfon county hall in 1950
Neuadd y Sir ym 1950, trwy garedigrwydd y
CBHC a'i wefan Coflein

Mae Neuadd y Sir (canolfan weinyddol y sir) wedi sefyll yn y cyffiniau ers diwedd y 13eg ganrif. Mae'r ffryntiad mawreddog presennol yn dyddio o ailadeiladu'r neuadd ym 1863, a ddyluniwyd gan y syrfëwr sirol John Thomas.

Yn ogystal â bod neuadd sirol, roedd gan yr adeilad gwrt mân sesiynau ac ystafell llys cromennog, hardd ar gyfer y brawdlys a'r sesiynau chwarter. Roedd Gorsaf yr Heddlu a’r carchar drws nesaf, gan alluogi pobl dan amheuaeth i gael eu dal a’u rhoi ar brawf ar un safle. Roedd y fynedfa i'r ystafell dystion ar y llawr isaf wrth ochr Gorsaf yr Heddlu ond cafodd ei chau wrth i lefel y palmant godi dros y blynyddoedd.

Edrychwch i fyny i ben y ffryntiad i weld ffigwr ‘Cyfiawnder Dall’ gan Robert Evans, “cerfiwr o bren a cherrig” a oedd wedi symud o Sir y Fflint i Borthaethwy. Roedd yn y llys ei hun ym 1878, dirwywyd 20 swllt am feddwdod!

Yn y cyntedd mae placiau yn anrhydeddu meirwon y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, a phlac 1904 i ddynion y sir a wasanaethodd yn Rhyfel De Affrica (1899-1902).

Photo of Caernarfon assizes court in 1950
Ystafell y llys cromennog ym 1950,
trwy garedigrwydd y CBHC a'i wefan Coflein

Ym 1936 gwnaeth yr heddychwyr Saunders Lewis a Lewis Valentine areithiau o'r doc pan oeddant wedi ei cyhuddo  o gynnau tân yng ngwersyll yr RAF yn Penrhos. Cyhoeddwyd yr areithiau fel pamffledi gan Plaid Cymru – y blaid yr oedd y ddau ohonynt yn sylfaenwyr ohoni. Methodd rheithgor Caernarfon â dod i benderfyniad, ond cafwyd y ddau ddyn yn euog yn ddiweddarach yn yr Old Bailey yn Llundian.

Cynhaliwyd y sesiynau chwarter olaf yma ym mis Rhagfyr 1971, a disodlwyd gan Lys y Goron Caernarfon wrth foderneiddio'r system gyfiawnder. Daeth y llys sesiynau mân yn llys yr ynadon.

Daw'r hen luniau, trwy garedigrwydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion a Hynafol Cymru, o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac maent yn dangos y ffryntiad a'r llys brawdlys yn 1950.

Symudodd llys y goron i'r ganolfan gyfiawnder newydd, yn Ffordd Llanberis, yn 2009. Adnewyddodd y cerddor Moira Hartley yr adeilad a'i agor fel bwyty'r Old Courthouse a'r Courthouse Theatre, gyda bar yn yr hen ystafell dystion. Mae hi wedi chwarae soddgrwth mewn llawer o sioeau cerdd. Mae ei gwaith fel arholwr roc a phop ar gyfer Coleg y Drindod, Llundain, wedi mynd â hi i amrywiol wledydd, gan gynnwys yr Aifft a'r Emiraethau Arabaidd Unedig.

Gyda diolch i Moira Hartley ac i Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 2AY    Map

Gwefan bwyty yr 'Old Courthouse' (Facebook)

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk