Gwelfan Pen Llyn, Brynrefail

Gwelfan Pen Llyn, Brynrefail

Ar ddiwrnod clir, o ben yma Llyn Padarn ceir golygfa ddeniadol o'r Wyddfa a chopaon eraill. Defnyddiwch y ffotograff isod i adnabod tirnodau a dysgu am eu henwau.

Mae'n bosib i chi weld Carnedd Elidir wedi'i hysgrifennu ar fapiau fel Elidir Fawr ac Elidir Fach. Ystyr carnedd yw gwyddfa neu grugyn. Enw ar berson amser maith yn ôl yw Elidir.

Yn yr ardal o gwmpas copa Glyder Fawr a'i gymydog Glyder Fach ceir tomennydd mawr o greigiau dros bob man.  Daw'r gair glyder o cluder neu cludair, sy'n golygu "pentwr".
Deillia Carnedd Ugain o Garnedd Wgon, sy'n golygu carnedd y dyn o'r enw Gwgon.

Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru. Ei hystyr yw "lle amlwg", o gŵydd a -ma, ac yn aml fe gysylltwyd y gair â charneddi a thomennydd claddu ar yr ucheldir. Dywedir mai ar y mynydd hwn y ceir bedd Rhita Gawr, a fyddai'n gwneud ei ddillad o flew locsyn y gelynion a laddodd.

Mae'r gair cyntaf ym Moel Cynghorion yn golygu bryn anial. Gair arall am cynhorion neu gynnor, sy'n golygu "arweinydd", yw cynghorion. Ni wyddys y cyswllt rhwng y mynydd hwn ac arweinydd.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i Ken Latham am y llun

Map

Photo showing view from Llyn Padarn

LON LAS PERIS Tour label button_nav_5W-WENavigation go West button