Siambr Gladdu Twyni Penmaen, Penrhyn Gŵyr

Gower-AONB-FullMae'r siambr gladdu Neolithig ar y pentir a adwaenir fel Twyni Penmaen yn un o'r nifer o olion cynhanesyddol ar hyd arfordir Gŵyr.

Mae'r siambr yn enghraifft o'r math a geir ar hyd moryd ac afon Hafren ac yn y Cotswolds. Mae ganddo fynedfa ddwyreiniol, prif siambr a siambr ochr ddeheuol, ac mae'r cyfan wedi goroesi i raddau helaeth. Mae hefyd olion o siambr ochr ogleddol.

Pan gloddiodd archaeolegwyr Oes Fictoria yno, fe ddaethon nhw o hyd i ddarnau o esgyrn dynol, gan gynnwys rhannau o ên a llaw. Cafwyd hyd i esgyrn anifeiliaid, darnau o grochenwaith a dolen wedi'i wneud o esgyrn hefyd, yn ogystal â llawer o gregyn môr

O dan y twyni mae Ogof Leathers Hole, sy'n anodd ei chyrraedd. Wrth gloddio yno yn y 1860au a'r 1910au datguddiwyd esgyrn anifeiliaid o'r Oes Iâ ddiwethaf. Ymhlith y rhywogaethau a nodwyd roedd rhinoseros gwlanog, mamoth gwlanog, blaidd, hiena, carw coch, ceffyl a chadno. Roedd y môr llawer is ac yn bellach oddi yma bryd hynny, ac roedd yr iseldir arfordirol (sydd ar goll o dan y môr erbyn hyn) yn le da i anifeiliaid bori.

Ar ôl goresgyniad Prydain gan y Normaniaid, roedd Twyni Penmaen yn perthyn i faenor Pennard (ar ochr draw Bae y Tri Chlogwyn). Ar yr ochr orllewinol mae tomen o bridd, sydd dros 20 metr o hyd, a grëwyd i gwningod adeiladu cwningaroedd ynddynt. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd cwningod yn darparu ffwr a chig gwerthfawr.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent

Map

Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button